Capel Curig: Gyrrwr beic modur wedi marw a theithiwr wedi dioddef anafiadau difrifol
Mae gyrrwr beic modur wedi marw a theithiwr wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ar yr A5 yng Nghapel Curig brynhawn Sadwrn.
Fe gafodd yr heddlu eu galw am 17:31 gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i adroddiad o wrthdrawiad rhwng beic modur Honda lliw coch a fan Volkswagen Caddy lliw gwyn.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys cyhoeddwyd bod y dyn oedd yn gyrru y beic modur wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd y ddynes oedd yn teithio ar gefn y beic modur ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol a allai newid ei bywyd.
Fe ddioddefodd gyrrwr y fan fân anafiadau.
Mae perthnasau agosaf y beiciwr modur wedi cael gwybod.
Dywedodd y Rhingyll Leigh McCann o'r Uned Troseddau Ffyrdd ei fod yn apelio am dystion.
Dywedodd: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r beiciwr modur ar yr adeg drist hon.
“Mae’r ymchwiliad i sefydlu beth achosodd y gwrthdrawiad yn mynd rhagddo ac rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A5 ger Capel Curig tua’r adeg y digwyddodd y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd i ddod ymlaen.
“Mae’r ffordd yn parhau i fod ar gau i’r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd, a hoffem ddiolch i’r gymuned leol a modurwyr am eu hamynedd.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif y digwyddiad C067082.