
'Llawn positifrwydd': Teyrnged i Jill Lewis cyn lywydd Merched y Wawr sydd wedi marw yn 60 oed
Mae teyrnged wedi ei rhoi gan Ferched y Wawr i Jill Lewis, cyn-lywydd ac is-lywydd cenedlaethol y mudiad, sydd wedi marw yn 60 oed.
Roedd Jill Lewis o Langlydwen yn llywydd cenedlaethol ar Ferched y Wawr rhwng 2021 a 2023.
Fe fuodd hefyd yn llywydd cangen Mynachlog-ddu yn Sir Benfro lle y cafodd ei geni a’i magu, ar ôl bod yn aelod o’r gangen ers 1986, yn syth o’r coleg.
Fe gafodd ei hurddo yn llywydd yn y pentref hwnnw, ger cofeb Waldo Williams ar fynyddoedd y Preseli, yn yr awyr agored yn sgil y pandemig Covid.
Bu hefyd yn gydlynydd cefnogi Mudiad Meithrin yn ardal Penfro a Chaerfyrddin.
Mewn datganiad dywedodd Merched y Wawr eu bod nhw’n “estyn ein cydymdeimlad dwysaf" i deulu Jill Lewis.
“Bu Jill yn ysbrydoliaeth i nifer fawr o bobl, gan frwydro cancr tra yn bositif ym mhob agwedd o'i bywyd," meddai'r mudiad.
“Hi fu'n gyfrifol am gyflwyno'r Enfys o Obaith i Ysbyty Plant Cymru a hi hefyd oedd y cyntaf i gael eu hurddo ar fynydd y Preseli ger Cofeb Waldo.
“Roedd Jill bob amser yn llawn positifrwydd, yn barod i gael hwyl ac yn ffrind arbennig i gynifer ohonom.
“Bydd yn golled enfawr i'r mudiad. Cydymdeimlwn gydag Eurfyl a'r teulu yn eu galar.”

Wrth gael ei hurddo yn llywydd y mudiad yn 2021 dywedodd bod Mercher y Wawr yn “golygu cymaint i ni fel Cymry a merched yng Nghymru”.
Dywedodd nad oedd hi erioed wedi breuddwydio y byddai'r fath "fraint ac anrhydedd" yn dod iddi.
Roedd cefnogaeth rhanbarth Mynachlog-ddu wedi bod yn "gefn mawr" iddi ar hyd yr daith.
“Sai’n meddwl mod i wedi gwerthfawrogi Merched y Wawr nes iddyn nhw ddathlu 50 mlynedd o fodolaeth,” meddai.
“Ac mi wnes i feddwl ‘bois bach mae Merched y Wawr yn rhywbeth arbennig iawn’.
“Mae beth mae Merched y Wawr yn ei ddarparu i ferched Cymru yn werthfawr iawn.”
Llun: Jill Lewis ar Prynhawn Da yn 2021.