Cymru yn croesawu'r nifer uchaf erioed i wylio gêm ryngwladol i ferched

03/08/2022
x

Mae'r nifer uchaf erioed o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer gwylio tîm rhyngwladol Merched Cymru yn chwarae ym mis Medi. 

Bydd Cymru yn wynebu Slofenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Medi.

Daw'r newyddion am y niferoedd ddyddiau yn unig wedi diwedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2022.

Mae'r nifer o gefnogwyr ar gyfer y gêm yn erbyn Slofenia bellach yn fwy na 5,455 sef y record flaenorol a gafodd ei gosod yn erbyn Estonia'r llynedd. 

Dywedodd capten tîm merched Cymru, Sophie Ingle, ei bod hi'n "gyffrous iawn i weld y Wal Goch yn ein cefnogi ni mewn niferoedd mawr. Mae'n golygu cymaint i ni fel chwaraewyr, fyddai hyn ddim yn bosib hebddoch. 

"Mae gêm y merched wedi dod yn llawer mwy amlwg yn sgil yr Ewros a fedrwn ni ddim disgwyl i weld effaith hynny yn Stadiwm Dinas Caerdydd." 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.