Newyddion S4C

Yr Urdd: Cynllun lletya ffoaduriaid Wcráin i ddod i ben ddiwedd y mis

03/08/2022

Yr Urdd: Cynllun lletya ffoaduriaid Wcráin i ddod i ben ddiwedd y mis

Fe fydd y cynllun i letya ffoaduriaid o Wcráin yn un o wersylloedd yr Urdd yn dod i ben ddiwedd y mis, yn dilyn cadarnhad gan y mudiad.

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi ym mis Mawrth yn dilyn ymosodiad Rwsia ar y wlad.

Roedd y cynllun wedi ei ymestyn tan ddiwedd mis Awst yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, ond ni fydd yn cael ei ymestyn ymhellach.

Mae Cymru wedi ei henwi’n Genedl Noddfa gan Lywodraeth Cymru ers dechrau 2019 ac mae’r Urdd drwy eu cynllun wedi ymateb i un o’r argyfyngau ffoaduriaid mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Image
Sian Lewis Urdd
Mae Prif Weithredwr yr Urdd Siân Lewis wedi cadarnhau na fydd y cynllun yn cael ei ymestyn ymhellach.

'Agor i gefnogi'

Dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis, wrth Newyddion S4C fod nifer o ysgolion yn barod i ddychwelyd i’r gwersylloedd erbyn hyn wedi cyfnod o fethu mynychu.

“O ran yr elfen lletya, bydd hwnna yn dod i ben oherwydd mae gyda ni gannoedd ar gannoedd o ysgolion yng Nghymru sy’n barod i ail-gysylltu â’r gwersylloedd a ma’ rhaid sicrhau bo ni’n rhoi’r cefnogaeth yna i blant a phobl ifanc yng Nghymru sy’ ‘di bod mor dda dros y cyfnodau diwetha’ yn rhoid eu llety fyny,” meddai.

“Yn sicr ‘da ni’n agor i drafodaeth ac yn agor i gefnogi’r llywodraeth yn trio gwireddu’r amcanion o fod yn wlad lloches."

Daw’r cynllun presennol i gefnogi teuluoedd sydd wedi ffoi o ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn dilyn cynllun i gefnogi ffoaduriaid o Affganistan y llynedd wedi i’r Taliban ddychwelyd i rym yno.

“Yn sicr ‘dan ni’n falch iawn o’r gwaith ‘dan ni wedi gallu cyflawni efo’r ffoaduriaid o Affganistan a dal i fod efo ffoaduriaid yn Wcráin yn y gwersylloedd,” meddai Siân Lewis.

“Mae e ‘di bod yn impact positif iawn ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r unigolion yma yn y cyfnodau caled iddyn nhw.”

Ychwanegodd Ms Lewis fod y cysylltiad rhwng yr Urdd a’r teuluoedd yn parhau wedi eu cyfnod yn aros yn y gwersylloedd.

“’Dan ni’n parhau i fod yn ffrindiau efo nifer o’r rhei o’r teuluoedd yn Affganistan yn cadw’r cyswllt yna ac yn parhau i’w cefnogi nhw a dyna’r bwriad hefyd efo’r unigolion o Wcráin wrth bo' nhw’n symud i ffwrdd o’r gwersylloedd ac yn cychwyn eu bywydau nhw rhywle yng Nghymru.

“O ran yr Urdd, mae’r cysylltiad ‘na mwy neu lai i ryw raddau o ran y lletya’n mynd i ddod i ben yn amlwg yn fuan iawn a ma’ ‘na gyfrifoldeb yn ehangach wedyn yn mynd allan i’r awdurdodau lleol, ac i Lywodraeth Cymru i wireddu’r addewid o’u cefnogi nhw”.

Image
Rhun Dafydd
Mae Rhun Dafydd o Gymdeithas y Cymod wedi croesawu cynllun lletya'r Urdd ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin.

'Help llaw'

Mae Rhun Dafydd, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, wedi croesawu gwaith yr Urdd i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan.

“Fi’n credu ma’ fe’n rhywbeth dylen ni fel cenedl fod yn hynod o falch o yn arwain y ffordd yn croesawu ffoaduriaid yn enwedig os ti’n edrych ar polisi ehangach Llywodraeth Cymru o greu Cenedl Noddfa,” meddai.

“Mae’n dangos i bobl ifanc hefyd bo' ni fel pobol neu ni fel mudiad, bo' ni yn groeso i bobol ac yn help llaw pan fod angen.”

Dywedodd hefyd bod camau pellach i’w cymryd i gefnogi’r sawl sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin dros y misoedd i ddod.

“Fi’n credu ma’ fe’n sialens oherwydd yn y bôn, yn enwedig os ti’n edrych ar heddychwyr neu weithwyr dyngarol yn ystod rhyfel yw’r adeg anoddach i bobl i allu ymateb so jyst bod yn ymwybodol o unrhyw ymateb a fel ma’ nhw’n neud nawr gyda ffoaduriaid yn help,” meddai.

“Ond hefyd sicrhau yn falle edrych yn ehangach bo ni ddim yn edrych ar gefnogi mwy o drais yn digwydd a bod ‘na ddim cefnogaeth neu fuddsoddiad mewn i arfau neu i drais.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Urdd, awdurdodau lleol a theuluoedd sydd yn cael eu lletya yn yr Urdd i ganfod y cam nesaf cywir o ran llety yn dilyn eu harhosiad yn y ganolfan groeso."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.