Ysbytai yn Lloegr yn cytuno i dderbyn cleifion fasgiwlar o'r gogledd

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi fod ysbytai yn Lloegr ar gael i dderbyn cleifion fasgiwlar o ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr os oes angen.
Dywedodd y gweinidog fod pwysau ar wasanaethau'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd "oherwydd diffyg argaeledd ymgynghorwyr a nyrsys mewn gwasanaethau fasgwlaidd."
Mewn datganiad ysgrifenedig, ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb er mwyn trosglwyddo rhai cleifion yn ystod mis Awst i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Lerpwl.
Fe allai rhai cleifion gael eu trosglwyddo hefyd i Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke.
Mae hyn eisoes yn digwydd yn achos trigolion o'r gogledd ag anafiadau trawma difrifol.
Darllenwch ragor yma.