Cimwch glas prin yn cael ei achub gan ganolfan ymchwil ar Ynys Môn

Mae cimwch glas gafodd ei ddal gan bysgotwr ger Ynys Môn wedi cael ei achub rhag bod yn bryd o fwyd gan ganolfan ymchwil.
Mae arbenigwyr wedi amcangyfrif bod y tebygolrwydd o ddal cimwch o’r fath yn un mewn 2,000,000.
Ar ôl cael ei ddal ger Ynys Seiriol, roedd perchenog y cimwch wedi bwriadu ei werthu i’r diwydiant bwyd yn Sbaen, ond fe wnaeth y creadur glas ddenu diddordeb perchennog a chyfarwyddwr Sŵ Môr Môn.
Mae Frankie Hobro yn rhedeg prosiect Deorfa Cimwch Cymru ym Mrynsiencyn.
“Yn ffodus, roedd y pysgotwr yn cydnabod bod ganddo liw anarferol ac roedd modd i ni ddod ag ef yma ar gyfer ein rhaglen ymchwil a bridio.
“Rydym o hyd yn edrych am wahanol liwiau a dim ond ers i’r stociau cimychiaid adfer yn ystod y ddegawd ddiwethaf ydyn ni'n gweld niferoedd mwy a lliwiau gwahanol. Rydym yn ymchwilio i weld os mae hyn yn cael ei achosi gan ffactorau amgylcheddol neu a yw'n enetig.”
Cafodd y cimwch ei ddal gan Liam Thomas, 29, ddiwedd mis Gorffennaf.
Dywedodd Mr Thomas: "Roedd yn las golau, rhyw fath o liw pastel. Allwn i ddim credu'r peth. Doeddwn i erioed wedi dal dim byd tebyg o'r blaen."