
Cynllun i sicrhau bod 'pawb yn medru'r Gymraeg' yn Heddlu Dyfed-Powys
Cynllun i sicrhau bod 'pawb yn medru'r Gymraeg' yn Heddlu Dyfed-Powys
Mae disgwyl y bydd llu cyfan Heddlu Dyfed-Powys yn medru cyfathrebu ychydig yn y Gymraeg fel rhan o gynllun newydd.
Mae'r llu wedi cyhoeddi cynllun ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys i ddarparu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd y cynllun ei lansio'n swyddogol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth.
Dywedodd Dr Richard Lewis wrth Newyddion S4C: "Yn y pendraw fydd pawb felly sydd yn gweithio'n Dyfed-Powys yn heddweision, staff a gwirfoddolwyr yn gallu medru'r iaith lan hyd at Lefel 3".
Mae’r llu yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol De Cymru i roi mwy o gyfleoedd i recriwtiaid newydd sy'n siarad Cymraeg i dderbyn hyfforddiant drwy gyfrwng yr iaith.
Mae cyfleoedd hefyd i'r rhai nad sydd yn medru'r iaith i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg drwy gyfres o "senarios ymarferol".
Mae cyrraedd Lefel 3 yn golygu bod pobl yn gallu siarad yn rhannol yn y Gymraeg ac yn gallu deall ac ymateb i ymholiadau cyffredinol yn yr iaith.
"Mae'n ddiwrnod mawr i ni heddi' achos ni'n lansio hwn i sicrhau fod ein heddweision newydd sydd yn dechrau'n mis Medi yn gyfangwbwl yn mynd i gael 'u haddysgu trw' gyfrwng y Gymraeg," ychwanegodd.
"Y rhai sydd yn ddi-Gymraeg, fydd 'na faich ar y rhai sydd yn gallu medru'r iaith i sicrhau erbyn diwedd yr hyfforddiant bydd pawb yn medru'r iaith lan at Lefel 3 ac felly mae'n fuddsoddiad mawr i ni yn ein cymunedau ni i sicrhau fod y llu gyfan yn un sydd yn hollol ddwyieithog erbyn diwedd y cynllun."

Dywed Prif Gwnstabl y llu bod angen i bobl fod yn fwy parod i ofyn am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae'n hollbwysig bod ni'n medru'r iaith Gymraeg, Saesneg ac ambell i iaith arall wrth gwrs yn ambell i ardal o'r llu," meddai.
"'Yn ni fel siaradwyr Cymraeg yn rhy gyfarwydd â peidio gofyn am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, 'yn ni'n fodlon derbyn y ffaith fod pawb yn siarad Saesneg.
"Dyw hwnna ddim yn ddigonol rhagor i ni fel Heddlu Dyfed-Powys. 'Yn ni'n sicrhau fod pawb yn gallu medru'r iaith yn fewnol yn y llu ac yn gallu cyfathrebu'n ddwyieithog gyda pawb yn ein cymunedau."
Dywedodd Dafydd Trystan Davies o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth Newyddion S4C: "Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn datblygu addysg uwch cyfrwng-Cymraeg ers degawd bellach ac yr hyn ni'n gweld ma' 'na potensial enfawr wrth weithio gyda chyflogwyr mawr yn y sector cyhoeddus yn enwedig pethau fel yr heddluoedd, y gwasanaeth iechyd, i ddatblygu gweithlu ddwyieithog.
"Dwi'n eithriadol o falch bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweld y cyfle hwn ac yn rhannu'r weledigaeth honno."