
Stigma yn dal i rwystro bronfwydo
Stigma yn dal i rwystro bronfwydo
Dydi cymdeithas yn dal “ddim yn cefnogi menywod” i fwydo ar y fron medd un arbenigwr iechyd.
Yn ôl Dr Rhiannon Phillips, sydd yn Seicolegydd Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae hyn yn gwneud hi’n anodd i ferched ddal ati.
Daw ei sylwadau yn ystod wythnos codi ymwybyddiaeth bwydo ar y fron ar draws y byd sydd yn digwydd ddechrau mis Awst.
“Un o’r prif bethau ni yn ffindio yw bod cymdeithas a’n diwylliant ni ddim yn cefnogi menywod i fwydo ar y fron. Felly yn aml maen nhw yn teimlo bod lot o stigma.
“Dyw nhw ddim yn teimlo yn gyfforddus yn bwydo mewn lle cyhoeddus ac mae’r pethe yma yn neud e wir yn anodd i rywun barhau, yn enwedig os yw nhw yn digwydd ddim bod mewn cylch o ffrindie a theulu sydd yn gyfarwydd a gweld pobl yn bwydo ar y fron.”
'Ydy o'm yn brifo?'
Un sydd wedi cael sylwadau am y ffaith iddi fwydo ei phlant o'r fron yw Erin O’Donnell o Lanystumdwy, Gwynedd.
Fe wnaeth hi fwydo ei merch hynaf, Casi nes ei bod yn 17 mis. Ei tharged ar y cychwyn oedd 6 mis.
“Dwi’n cofio oedd yna lot o bobl yn deud tha fi fatha, ‘O ma ganddi ddannadd rŵan. Ydy o’m yn brifo? Neu ti’m yn meddwl fysa yn well i chdi stopio? Ond odd o yn rhan o routine ni. Odd na adegau lle odd hi yn drist am rwbath, fysa neb arall yn gallu setlo hi. Fysa hynna yn setlo hi yn syth.”
Er bod Erin wedi bronfwydo ei dwy ferch dyw hi ddim wedi bod yn hawdd. Fe aeth hi’n sâl wedi genedigaeth Casi ac fe gafodd arthritis adweithiol, sef rhywbeth sydd yn gallu datblygu pan mae haint yn rhan arall o’r corff. Gyda'i hail blentyn roedd ganddi dafod wedi clymu (tounge tie) oedd yn golygu ei bod yn bwydo yn ddi-stop. Bu bron i Erin roi’r gorau iddi. Ond daeth i wybod am driniaeth i dynnu rhan o groen y tafod.
“Yn diwadd nathan ni ffonio rhywun yn breifat. Yr unig lle agosaf yr wythnos yna odd Stoke on Trent. So nathan ni ddreifio yr holl ffordd yna…O’n i’m yn dallt pa mor hawdd oedd y procedure. Ond eiliad, oddan nhw yn torri fo a na fo. Oddan nhw isio i fi fwydo hi yn fanna a checio bod bob dim yn iawn. Ond odd o fatha y tro cynta iddi fwydo yn iawn.”
Dyw Erin ddim yn deall pam nad yw ysbytai yn cynnig y driniaeth wedi’r geni.

“Dwi’n meddwl ddylsa hwnna fod yn rwbath ddylsa nhw sbïo ar neud pan ti yn ysbyty. Achos maen nhw yn checio bob dim yn ysbyty efo chdi…Mae’n anodd coelio bod rwbath sydd yn mynd i gael gymaint o effaith ar fam a babi, ddim yn jest cael ei neud yn yr ysbyty de.”
Mae ystadegau yn dangos mai dim ond ryw 1% o famau sydd yn bwydo dim ond efo llaeth y fron erbyn bod y babi yn chwe mis oed ym Mhrydain.
Diffyg addysg
Yn ôl Dr Rhiannon Phillips mae llawer yn rhoi’r gorau iddi cyn eu bod nhw eisiau gwneud.
“Beth ni yn gweld yw bod braidd dim addysg i fwydo ar y fron. Os chi yn meddwl am wersi bioleg yn yr ysgol neu ffordd ni yn hyfforddi doctoriaid a pethe felna, chi ddim yn gweld llawer am fwydo ar y fron o gwbl. Felly mae angen i ni wella’r addysg ynghylch hyn.”
Er mai bwriad Mirain Rhys oedd bwydo ar y fron fe gafodd hi drafferthion. Roedd mewn poen pan oedd hi’n gwneud. “Ar ôl ychydig o wythnosau odd o’n cael effaith ar y ffordd o’n i yn bondio efo fy merch. O’n i yn teimlo yn eitha negyddol tuag at pan oedd hi angen bwyd ac o’n i jest ddim isio i hynna barhau.”
Roedd hi’n mynd i’r sesiynau oedd yn cynnig help bwydo ond roedden nhw wastad yn brysur. Roedd hi hefyd yn llwyddo i fwydo ei babi yno ond roedd y stori yn wahanol pan oedd hi yn ôl adref.

Fe benderfynodd Mirain a’i phartner ar ôl ychydig wythnosau i fwydo gyda fformiwla. Mi oedd hi’n ‘rhwystredig’ ac yn ‘drist’ meddai ar ôl newid i’r botel. “Hefyd o’n i yn teimlo bo fi wedi methu rili achos o’n i wedi methu pigo y sgil i fyny. Ond odd rhaid i fi falansio hynna efo lles fy hun ac iechyd meddwl fy hun a hefyd y berthynas odd gennai efo fy merch.”
Tra ar ei chyfnod mamolaeth fe aeth hi a’i dwy ffrind ati i sefydlu grŵp bwydo i famau newydd. “Oddan ni yn gweld o fel rhywbeth mwy cynhwysiedig, gofod lle oedd unrhyw un oedd yn bwydo mewn unrhyw ffordd yn gallu dod a jest cael chats efo mamau eraill. Achos oddan ni ddim yn teimlo bod y gofod yna yn bodoli.”
Mae’n dal i deimlo yn negyddol am y ffaith ei bod wedi rhoi’r gorau i fwydo ar y fron.
“Nath o gymryd cwpl o flynyddoedd i fi beidio mynd yn rili ypset pan o’n i yn sôn amdano. Dwi’n meddwl, achos o’n i mor dead set ar neud o, bo’ fi yn eitha pen galad ynglŷn â beth o’n i isio neud fel mam a bo fi ddim wedi llwyddo yno fo.
“A dwi’n meddwl bod hwnna wedi creu jest teimlad eitha negyddol yn fy hun. Ond mwy dwi’n gweld fy merch yn tyfu a bod yn hapus ac yn llwyddo, y mwy mae’r teimlad yna yn mynd. Ond dwi’n meddwl fydd o wastad efo fi.”