Liz Truss yn dweud bod angen 'anwybyddu' Nicola Sturgeon

Mae Liz Truss wedi awgrymu y byddai hi'n 'anwybyddu' Nicola Sturgeon pe bai hi'n dod yn arweinydd nesaf y Blaid Geidwadol.
Wrth siarad yn y ddadl arweinyddiaeth ddiweddaraf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor gyhuddo Prif Weinidog Yr Alban o fod yn "hoffi sylw."
Pan ofynnwyd i Ms Truss am refferendwm annibyniaeth arall i'r Alban pe bai hi'n dod yn Brif Weinidog, ymatebodd gyda "na, na, na."
"Dwi'n credu fy mod i'n blentyn i'r undeb. Dwi'n credu'n gryf ein bod ni'n deulu ac mai'r peth gorau i wneud efo Nicola Sturgeon ydi ei hanwybyddu hi," meddai.
Darllenwch fwy yma.