Wyth wedi marw mewn achosion avalanche yn Awstria

18/01/2026
Avalanche yn Awstria

Mae wyth o sgïwyr wedi marw mewn dau avalanche yn Awstria yn dilyn eira trwm yn y rhanbarth.

Cafodd tri sgïwr o’r Weriniaeth Tsiec eu lladd Pusterwald yn Styria ddydd Sadwrn, yn ôl adroddiadau mewn papurau yn Awstria. 

Fe wnaeth avalanche daro grŵp o saith sgïwr oddi ar y llethrau yn Nyffryn Gastein yn ardal Pongau i’r de o Salzburg, gan ladd pedwar ac anafu un yn ddifrifol ddydd Sadwrn, yn ôl swyddogion achub mynydd yno.

Fe wnaeth avalanche daro menyw oedd yn sgïo yn yr un ardal yn gynharach yn y dydd.

Mae eira trwm ac amodau gwael wedi arwain at farwolaethau nifer o bobl yn yr Alpau dros yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd pennaeth ardal gwasanaeth achub mynydd Pongau Gerhard Kremser bod y "drasiedi hon yn dangos pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa avalanche bresennol.

Ychwanegodd fod “rhybuddion clir ac ailadroddus” wedi bod am y risg o’r avalanche.

Ddydd Mawrth, lladdodd eirlithriad bachgen 13 oed o’r Weriniaeth Tsiec yn ardal Bad Gastein ger Salzburg.

Ddydd Sul diwethaf, bu farw sgïwr 58 oed mewn avalanche yn y Tyrol yng ngorllewin Awstria.

Yn y Swistir cafodd dyn o'r Almaen ei ladd mewn ac anafwyd pedwar o bobl eraill, wrth iddyn nhw sgïo traws gwlad ddydd Gwener.

Y penwythnos diwethaf yn Ffrainc, bu farw chwech o sgïwyr ar ôl cael eu dal mewn sawl avalanche mewn gwahanol ardaloedd.

Llun: Achub Mynydd Pongau

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.