Porthmadog: Arestio dyn 35 oed wedi ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed
Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dyn 35 oed wedi ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw hefyd yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig mewn gêm yng Nghynghrair Gogledd Orllewin Cymru rhwng Porthmadog a Bae Trearddur.
Enillodd Porthmadog y gêm o 3-2.
Mae fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymddangos fel petai chwaraewr Bae Trearddur yn defnyddio'i benelin i daro wyneb chwaraewr Porthmadog yn ystod y gêm.
Roedd chwaraewr Porthmadog, Danny Brookwell wedi dioddef cyfergyd o ganlyniad i'r ymosodiad honedig a ddigwyddodd wrth i Borthmadog gymryd cic o'r smotyn, meddai'r clwb.
Mewn datganiad nos Sul dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn "ymwybodol o fideo sy'n cylchredeg ar-lein yn ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd mewn gêm bêl-droed rhwng Clwb Pêl-droed Bae Trearddur a Chlwb Pêl-droed Porthmadog ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd y llu bod "swyddogion wedi bod yn gwneud ymholiadau i sefydlu'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad".
"Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad. Mae'n parhau i fod yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
"Mae ymholiadau'n parhau a byddem yn gofyn i aelodau'r cyhoedd beidio â dyfalu tra bod yr ymchwiliad yn parhau," meddai'r llu.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad gysylltu â'r heddlu trwy 101 gan ddyfynnu 26000046180
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth Newyddion S4C eu bod "yn ymwybodol o'r digwyddiad honedig a byddant yn ymchwilio i'r mater".
'Gwahardd'
Nos Sul dywedodd CPD Bae Trearddur eu bod nhw wedi rhyddhau’r chwaraewr dan sylw o’r clwb.
Mewn datganiad, dywedodd y clwb: “Yn dilyn cyfarfod cyffredinol eithriadol o bwyllgor y clwb a chwblhau prosesau mewnol y clwb, mae Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y digwyddiad ar y cae yn erbyn Clwb Pêl-droed Porthmadog.
“Yn dilyn adolygiad mewnol, penderfynwyd rhyddhau'r chwaraewr gwaharddedig dan sylw ar unwaith.
“Nid yw Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn goddef trais o unrhyw fath ac yn cydnabod na ddylai'r digwyddiad fod wedi digwydd.
“Mae'r clwb yn cynnig ei ymddiheuriadau diffuant i'r chwaraewr arall dan sylw, Clwb Pêl-droed Porthmadog, swyddogion y gêm, cefnogwyr, a'r gymuned bêl-droed ehangach.
“Bydd y clwb yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau allanol neu brosesau disgyblu ac ni fydd yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd tra bod y materion hyn yn parhau.”
Yn gynharach brynhawn ddydd Sul dywedodd y clwb eu bod nhw wedi gwahardd un o’u chwaraewyr ac wedi ei enwi.
Dywedodd y clwb: “Mae Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn dymuno cadarnhau ei fod wedi gwahardd Tom Taylor ar unwaith yn dilyn digwyddiad rhwng Clwb Pêl-droed Bae Trearddur a Phorthmadog ddoe.
Dywedodd CPD Porthmadog wrth Newyddion S4C eu bod wedi'u "siomi" gyda'r digwyddiad.
"Yn dilyn y digwyddiad yn Y Traeth brynhawn ddydd Sadwrn, sydd wedi cael ei ddogfennu'n dda ar amryw o gyfryngau cymdeithasol, hoffai'r clwb bwysleisio mai ei brif bryder yw lles a diogelwch ein chwaraewr Danny Brookwell.
"Cafodd Danny gyfergyd ac ar ôl triniaeth bu'n rhaid iddo adael y cae chwarae. Ein dealltwriaeth ni yw ei fod yn gwella gartref.
"Hoffai'r clwb fynegi ei siom bod y digwyddiad hwn wedi digwydd o gwbl.
"Bwriad y clwb yw gadael i'r awdurdodau priodol ddelio â'r mater ac ymddiried y bydd y camau cywir yn cael eu gwneud a'n bod ni ddim yn gweld golygfa mor erchyll eto."
