‘Ni fel cymuned’: Sefydlu clwb tenis bwrdd yn Sir Gâr i hybu lles corfforol a meddyliol pentrefwyr

‘Ni fel cymuned’: Sefydlu clwb tenis bwrdd yn Sir Gâr i hybu lles corfforol a meddyliol pentrefwyr

Mae clwb tenis bwrdd cymunedol wedi’i sefydlu yn Sir Gâr er mwyn hybu lles corfforol a meddyliol pentrefwyr yn ardal Capel Hendre, Saron a’r cylch.

Mae tair sesiwn yr wythnos yn cael eu rhedeg yn neuadd Saron gyda’r Gymraeg hefyd yn cael ei hyrwyddo trwy’r chwarae.

Mae gan y clwb tua 50 o aelodau yn amrywio o 21 i 84 oed.

Sefydlwyd y clwb gyda chymorth Vips Parekh, o Swyddfa Bost Capel Hendre, wnaeth noddi offer a thri bwrdd am gost o £500 yr un.

Mae Vips â’i wraig Aran eisoes wedi sefydlu caffi cymunedol ‘Paned ar y Sgwâr’ yn y Swydda Bost i hybu’r Gymraeg a dod â’r gymuned at ei gilydd.

Un o’r rhai mwyaf selog yn y clwb tenis bwrdd yw Howell Jenkins, 71 oed, o Lanedi.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "I weud y gwir, dwi’n dod ‘ma i gael ffitrwydd.

“Ma’ ‘da fi chest gwael a ma’ dod fan hyn yn neud fi symud fwy a neud fi mwy ffit a fi’n lico’r pobol sy’n rhedeg e.

“Ni’n cymuned da’n gilydd, pobol neis yn dod ‘ma – ni’n dod ‘mlaen gyda’n gilydd a ma’ fe jyst yn enjoyment rili.

“Ni fel cymuned, na’r point.

“Ni fan hyn yn ardal Saron a Capel Hendre a ma’ lot o Gymrâg a lot o bobl yn siarad Cymrâg a ma’ fe’n neis i siarad Cymrâg fan hyn.”

'Bach yn stiff'

I Gwyn Davies, 76 oed o Gapel Hendre, mae’r clwb yn rhoi cyfle iddo wella ei ffitrwydd a chymdeithasu.

Dywedodd: "Dwi’n dod ‘ma i ymarfer, ma’ hwnna’n bwysig a cwrdd â pobol eryll o’r pentre ac yn ystod y gaea’ dod mâs o’r tŷ a dweud y gwir achos se’n i ddim yn dod fan hyn bydden i jyst yn ishte a watsho’r teledu.

“Ma’ gallu dod fan hyn yn grêt. 

“O’n i yn y Swydda Bost lleol a digwydd siarad gyda dau berson o’dd yn rhedeg y clwb a nhw nath annog fi i ddod.

“Pan o’n i’n ifancach o’n i arfer whare table tennis yn Pontardulais a o’n i’n meddwl pam lai?

“So datho ni lawr a pigo fe lan a cwrdd â pobol a symud – ma’ fe’n neis i symud achos y’n oedran i, chi dueddol o fynd tam bach yn stiff.

“Ma’ hwn yn exercise mae e’n rhoi i chi yn iawn.

“Hefyd fi wedi bod yn sgïo am flynydde a fi ddim wedi bod ers dwy flynedd so ma’ hwn yn helpu paratoi fi i sgïo ym mis Chwefror so fi gobitho fyddai’n barod am y slopes.”

Mae poblogrwydd y clwb yn golygu bod cynlluniau ar gyfer bwrdd ychwanegol a rhwydi rhwng y byrddau i gorlanni’r peli.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.