Ceredigion: Gyrrwr beic modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad
Mae gyrrwr beic modur wedi marw wedi gwrthdrawiad yng Ngheredigion ddydd Sadwrn
Cafodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys eu galw am 13:05 wedi adroddiadau am wrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha a fan Volkswagen Transporter ar ffordd osgoi Aberteifi, yr A487.
Roedd y gwrthdrawiad i gyfeiriad y gogledd ger cyffordd Ffordd Caermorgan a bu’r ffordd ar gau am rai oriau.
Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty lle bu farw yn hwyrach.
Ni oedd adroddiadau am unrhyw anafiadau eraill.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20260117-139.