Cwpl o America yn penderfynu dysgu Cymraeg ar ôl dechrau cefnogi CPD Wrecsam

Llun: CPD Wrecsam
Ron Strayer a Susie Shackelford

Mae cwpl o America wedi dechrau dysgu Cymraeg ar ôl dechrau cefnogi CPD Wrecsam.

Daeth Ron Strayer a Susie Shackelford, sy’n byw yng nhalaith Washington yn yr Unol Daleithiau, yn gefnogwyr brwd o’r clwb yn 2022 ar ôl gwylio’r rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham.

Ers hynny, maen nhw wedi bod yn gwylio'r gemau sydd wedi eu harwain i ymweld â'r ddinas y llynedd.

Mae nhw wedi eu hysbrydoli i ymuno â'r Cwrs Blasu Iaith i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam, sydd yn cynnal sesiynau blasu arlein.

Mae'r cwrs wedi denu cefnogwyr tramor y clwb i ddysgu’r iaith.

Dywedodd Ron: “Yn ystod taith fis Medi diwethaf, cawsom gyfle i ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf, ond am ychydig ddyddiau yn unig, ac yn anffodus, nid oedd modd i weld gêm.

“Fe wnaethon ni syrthio mewn cariad â'r dref ac roedden ni'n gwybod y bydden ni'n dychwelyd i Gymru'n rheolaidd.

“Mae'n bwysig i ni pan fyddwn ni'n teithio i ddysgu hanfodion yr iaith leol a chael dealltwriaeth o'r diwylliant a'r hanes.

"Ni’n gobeithio y bydd hyn yn ein gwneud ni'n westeion gwell.”

Cyn trefnu’r ymweliad nesaf â Wrecsam aeth Susie ar-lein a daeth ar draws cwrs blasu'r clwb.

“Roedd yn amlwg mai dyma’r cwrs i ni ddechrau arno.

"Gadewch i ni fod yn onest yma, yn ein hoedran ni, mae’n anodd iawn dysgu rhywbeth mor gymhleth â iaith newydd yn gyflym.

“Doedd gyda ni ddim profiad o’r iaith o gwbwl.

“Fodd bynnag, roedd y gwersi’n syml iawn ac yn hawdd eu dilyn.”

Llawer o hwyl

Ers ymgymryd â'r cwrs, mae Ron a Susie wedi bod yn ymarfer Cymraeg gartref ac weithiau'n gymdeithasol.

Dywedodd Ron: “Rydym wedi defnyddio'r Gymraeg gyda'n gilydd yn bennaf, a phan fyddwn ni eisiau ceisio creu argraff ar ein ffrindiau dros ddiod, rydym yn gweiddi 'Gôl' ar y teledu llawer.”

Ar ôl cwblhau'r cwrs blasu chwe wythnos, fe ddaeth y ddau yn ôl i Gymru ym mis Rhagfyr a gwylio'r gêm rhwng Wrecsam a Watford.

Dywedodd Ron:"Mae mor hwyl cerdded o gwmpas y dref neu'r Cae Ras a deall ychydig o eiriau, neu gyflwyno'ch hun yn iawn.

“Roedden ni'n hapus ein bod ni wedi gallu dysgu'r pethau sylfaenol fel cyfarchion, cyflwyniadau ac yn bwysicaf oll, sut i dostio ac archebu cwrw.

Ac ers hynny mae’r cwpwl wedi mynd gam ymhellach a phrynu fflat yn yr ardal.

“Byddwn ni yn Wrecsam sawl gwaith y flwyddyn ac rydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy o’r iaith a’i defnyddio pan fyddwn ni yno,” meddai’r cwpwl sy’n annog eraill i ddysgu ar y cwrs.

"Gwnewch hi,” medden nhw.

“Mae’n fuddsoddiad bach o ran amser ac mae’n rhoi dealltwriaeth dda i chi o hanfodion y Gymraeg.

“Hyd yn oed os na fyddwch chi byth yn mynychu cwrs arall, bydd gennych chi well gwerthfawrogiad o’r iaith wrth ymweld, ac mae’n llawer o hwyl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.