Newyddion S4C

Big Brother yn dychwelyd i'r sgrîn deledu

The Guardian 02/08/2022
Big Brother / ITV

Mae'r rhaglen deledu realiti, Big Brother, yn dod yn ôl ar y sgrin. 

Cyhoeddodd ITV y bydd yn dychwelyd ar ITV2 ac ITVX yn 2023.

Bydd cast newydd o bobl o bob rhan o gymdeithas ar y rhaglen am hyd at chwe wythnos.

Fe gafodd Big Brother ei lansio gyntaf yn y DU yn 2000 cyn iddo ddod i ben yn 2018.

Dechreuodd y rhaglen ar Channel 4 cyn symud i Channel 5 yn 2011. Syniad y rhaglen yw bod pobl yn byw efo'i gilydd am gyfnod estynedig heb fynediad i'r byd go iawn er mwyn ennill swm o arian yn y diwedd.

Darllenwch fwy yma

Llun: ITV

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.