Ail-ddehongliad o bortread Syr Thomas Picton i ‘gyflwyno hanes mwy cyflawn’

Ail-ddehongliad o bortread Syr Thomas Picton i ‘gyflwyno hanes mwy cyflawn’
Bydd portread o Syr Thomas Picton yn cael ei arddangos unwaith eto yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi iddo gael ei dynnu i lawr y llynedd.
Bwriad yr amgueddfa yw ail-ddehongli’r is-Gadfridog.
Roedd Syr Thomas Picton yn cael ei ystyried gan rai yn arwr ym mrwydr Waterloo. Ond roedd hefyd yn cael ei gysylltu â chamdriniaeth bobl dduon a chaethweision ar ynys Trinidad, tra’n Llywodraethwr Prydain yno.
Mae’r Rhwydwaith Arweinwyr Ifanc y Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) yn cydweithredu gyda’r prosiect o’r enw ‘Ail-fframio Picton’.
Am dros ganrif, cafodd y portread o Picton ei arddangos yn oriel Wynebau Cymru yr Amgueddfa. Ond cafodd ei dynnu oddi yno, a'i symud i ardal arall yn sgil protestiadau Bywydau Du o Bwys yn 2020.
Ers hynny, blaenoriaeth y curaduron a dau artist o’r enw Gesiye a LakuNeg, oedd cynnwys mwy o wybodaeth a chyd-destun am ei hanes.
Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yr amgueddfa ei bod hi’n edrych ymlaen at “ehangu’r naratif o gwmpas y portread o Thomas Picton”.
“Dwi’n meddwl mae’n ddiddorol iawn i weld sut mae pobl yn ymateb i’r prosiect yma.”
“Fydd ‘na pethau anodd i drafod ond dwi’n meddwl bod ni wedi llwyddo i gyflwyno hanes mwy cyflawn am Picton a hefyd i weld yr ymateb cyfoes i legacy Picton”.