Newyddion S4C

Huw Edwards ar restr sancsiynau diweddaraf Rwsia

Sky News 01/08/2022
Huw Edwards

Mae'r darlledwr Huw Edwards ymysg nifer o enwau ar restr sancsiynau diweddaraf Rwsia. 

Mewn datganiad, cyhoeddodd Rwsia fod arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford a'r cyn Brif Weinidog David Cameron hefyd ymysg yr enwau ar y rhestr.

"Fel sydd wedi cael ei nodi fwy nag unwaith, mae gweithredoedd niweidiol y DU wrth ledaenu gwybodaeth ffug am ein gwlad ac mae cefnogi cyfundrefn neo-Natsiaidd Kyiv yn golygu y byddant yn derbyn ymateb pendant o safbwynt Rwsia."

Ychwanegodd Swyddfa Dramor y wlad nad oes ganddynt yr hawl i fynd i Rwsia. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.