
Esyllt Maelor yn cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
Esyllt Maelor yn cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
Esyllt Maelor yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.
Daeth y bardd o Forfa Nefyn i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 24 o geisiadau, a'r beirniaid eleni oedd Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams.
Un o Harlech, Meirionnydd yw Esyllt Maelor, ond yn Abersoch, Llŷn y cafodd ei magu a’i haddysgu cyn mynd ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor a graddio yn y Gymraeg.
Mae dylanwad ei rhieni Brenda a Gareth Maelor a’i hathrawon wedi bod yn bwysig iddi a bu’n ffodus o fod yng nghwmni addysgwyr blaengar fel T Emyr Pritchard ac R Arwel Jones tra’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog.
Byd addysg
Cafodd yrfa ym myd addysg, ac fe ddychwelodd yn ôl i’w hen ysgol ym Motwnnog i weithio fel Pennaeth Adran y Gymraeg.
Dywedodd bod ei dyled yn enfawr i’w chyn-ddisgyblion yn Mrynrefail, Edern a Botwnnog am ei hysbrydoli ac am ddangos pa mor bwysig yw geiriau.
Esyllt oedd y ferch gyntaf i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd nôl yn 1977 yn y Barri.

Rhwng magu plant a dilyn gyrfa, cyhoeddodd Edith Cwm Cloch, Telynores Eryri a chyfrolau i blant a phobl ifanc.
Hi hefyd oedd golygydd y gyfrol Galar a Fi. Cyhoeddodd Dewch i Mewn, sef cyfrol o straeon ar gyfer dysgwyr eleni – cyfrol sy’n ffrwyth cydweithio hapus rhyngddi hi a grŵp o ddysgwyr y Gymraeg yn ardal Nefyn.
Mae ganddi hi a’i gŵr Gareth dri o blant – Dafydd, Rhys a Marged. Y mae ôl dylanwad Dafydd ei mab ar y cerddi hyn – ef yn y bôn fu yno’n gefn iddi ac ef a’i gyrrodd i sgwennu, meddai.
Esyllt yw Cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 2023.
'Tregaron yn dre'r goron'
Dechreuodd Cyril Jones draddodi'r feirniadaeth o’r llwyfan gyda’r cwestiwn ar wefuasau pawb yn y Pafiliwn: “A fydd Tregaron yn troi’n ‘dre’r goron’? Dyna’r cwestiwn mawr yn eich meddyliau y prynhawn ‘ma siwr o fod.
“Cewch yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn go fuan. Chwarae teg, rych chi wedi gorfod disgwyl am ddwy flynedd. Cofiwch, mae’r dau ddwsin o feirdd sydd wedi wedi cystadlu wedi gorfod aros dwy flynedd a 4 mis. Ie, dyna chi, ry’ch chi’n gywir – fe anfonwyd y cerddi hyn i’r gystadleuaeth reit ar gychwyn cyfnod y clo cyntaf, ddechrau Ebrill 2020...
“Beth am y gystadleuaeth? Mae’r geiriau canlynol gan Gerwyn, y cyfeirniad arall, yn ei feirniadaeth ysgrifenedig yn adlewyrchu barn y tri ohonom: ‘digon cyffredin oedd ei hansawdd at ei gilydd’ ond mae’n mynd rhagddo i ddweud ‘yn y dosbarth teilyngdod bu’n gystadleuaeth a’m plesiodd yn arw.’ A dyna chi, felly, yn gwybod yn syth – bydd, fe fydd Tregaron yn troi’n ‘dre’r goron’.

“Mae Samiwel yn chwilio am ystyr i’w hynt ddaearol yng nghanol manion ein byw beunyddiol yma yng Nghymru a’i gororau. Dyma fel yr ymatebodd y tri ohonom - ar wahân - ar ôl darllen cerddi Samiwel. ‘Rwy’n ddieiriau’ meddai Gerwyn (dim yn aml mae Gerwyn yn cael ei daro’n fud!); ‘Aiff gwreiddioldeb ei ddelweddau â’n gwynt weithiau’ oedd geiriau Glenys.
"Ac fe ‘wedes innau: 'cyn i fi gyrraedd diwedd y gerdd gynta roeddwn i wedi codi ar fy nhraed ac yn darllen yr ail gerdd yn uchel...'
'Yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyn i ni drafod, roedd y tri ohonom yn gytûn taw eiddo Samiwel yw coron Ceredigion yma yn Nhregaron.”
Cyflwynwyd y Goron eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc Gwres.
Rhoddwyd y Goron gan Fridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen. Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan yr artist, Richard Molineux.
Yn ogystal â chyflwyno’r Goron ei hun, mae’r wobr ariannol o £750 hefyd yn cael ei rhoi gan Ifor a Myfanwy Lloyd o’r Fridfa.