Twnnel Conwy ar gau i'r ddau gyfeiriad fore Llun

Twnnel Conwy

Mae twnnel Conwy a ffordd yr A55 yn Sir Conwy ar gau i'r ddau gyfeiriad ddydd Llun oherwydd 'nam' yn system diogelwch y twnnel.

Mae traffig yn cael ei gyfeirio ar hyd ffyrdd lleol eraill am y tro, wedi i'r twnnel gau ychydig ar ôl 08:30 fore Llun.

Dywedodd yr Aelod y Senedd dros etholaeth Aberconwy, Janet Finch-Saunders bod tagfeydd yn drwm ar y ffordd yn ymestyn yn ôl i Benmaenmawr tua'r dwyrain, a hyd at Fae Colwyn tua'r gorllewin, ac mae'r traffig yn drwm yng Nghyffordd Llandudno, meddai.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Twnnel Conwy wedi cau oherwydd nam a nodwyd gyda’r systemau diogelwch yn y twnnel. 

"Mae gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym i ymchwilio i’r nam a’i gywiro cyn gynted â phosibl. 

"Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd sy’n teithio, nid yw’n bosibl i gerbydau fynd trwy’r twnnel nes bod y nam wedi’i drwsio, ac fe fyddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf drwy wasanaeth Traffig Cymru, ac rydym yn annog pobl i ganiatáu mwy o amser ar gyfer teithio yn y cyfamser.”

Ym mis Mehefin eleni roedd yn rhaid cau'r twnnel ar ôl tân yno gan achosi oedi a thagfeydd mawr. 

Roedd yn rhaid cynnal gwaith atgyweirio wedi hynny. 

Mae disgwyl diweddariad pellach gan Traffig Cymru'n ystod y diwrnod.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.