Toriad pŵer yn effeithio ar Snapchat, Roblox a nifer o fanciau
Does dim modd cael mynediad i nifer o wefannau ac apiau mwyaf y byd oherwydd toriad pŵer sy'n effeithio ar Amazon Web Services.
Mae hynny wedi effeithio ar Snapchat, Duolingo, Zoom a Roblox, yn ogystal â banciau gan gynnwys Lloyds a Halifax.
Y gred yw bod y gwefannau yma yn cael eu cynnal gan seilwaith Amazon Web Services, sy'n darparu gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl.
Roedd mwy na 2,681 o adroddiadau am doriadau pŵer yn Amazon Web Services fore Llun, yn ôl gwefan Downdetector sy'n nodi'r achosion.
Mae'n ymddangos bod y nam hefyd wedi effeithio ar fanciau, gan gynnwys Lloyds, Halifax, a Banc yr Alban. Roedd Downdetector yn nodi bod 6,925 o adroddiadau am doriadau pŵer ar gyfer gwasanaethau Lloyds am 09.31.
Mae'r trafferthion wedi effeithio ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi hefyd, gyda 500 o adroddiadau am broblemau erbyn 9.00.
Ymhlith y gwasanaethau eraill oedd â phroblemau, roedd Slack, Ring, Vodafone, Signal, Virgin Media, BT, EE a Sky.
Mewn datganiad, dywedodd Amazon Web Services eu bod bellach yn gweld "arwyddion sylweddol o adferiad".
"Dylai'r rhan fwyaf o geisiadau fod yn llwyddo nawr," meddai'r gwasanaeth mewn datganiad fore dydd Llun.
"Rydym yn parhau i weithio trwy'r ceisiadau.
"Byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth ychwanegol."