Mudiad Meithrin yn penodi Prif Weithredwr newydd

20/10/2025
Catrin Edwards Meithrin

Dr Catrin Edwards fydd Prif Weithredwr newydd Mudiad Meithrin gan olynu Dr Gwenllian Lansdown Davies.  

Mae Dr Edwards yn arbenigwr yn y trydydd sector gyda’i harbenigedd ym maes polisi cyhoeddus a materion allanol ym myd gofal. 

Wrth gyhoeddi ei phenodiad brynhawn Llun dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Catrin i rôl Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin. 

“Mae ganddi adnabyddiaeth dda o waith y Mudiad ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd, ac mae ei phrofiad sylweddol a’i harbenigedd yn y meysydd gofal yn ogystal â chynllunio ieithyddol yn gweddu’n wych i fedru arwain gwaith a chenhadaeth y Mudiad i’r dyfodol.” 

Mae gan Dr Catrin Edwards dros ddegawd o brofiad yn datblygu mudiadau aelodaeth cenedlaethol.

Mae ei phrofiad yn y trydydd sector yn cynnwys anghenion dysgu ychwanegol, anabledd, gofal diwedd oes ynghyd â chynllunio ieithyddol. 

Mae hi'n fam i dri o blant bach ac yn byw gyda’i theulu yng Nghaerdydd. 

Bu’n aelod o Fwrdd Mudiad Meithrin o 2021 tan Awst 2025 gan wasanaethu fel Cadeirydd.

Dywedodd bod ei phenodiad yn fraint ac anrhydedd: “Wrth ystyried mai’r blynyddoedd cynnar yw’r cyfnod mwyaf ffurfiannol o ran caffael iaith a gosod sylfeini ar gyfer cyfleon bywyd, ni ellir gorbwysleisio rôl hanfodol Mudiad Meithrin fel grym bywiog dros degwch a chynhwysiant, wedi’i wreiddio mewn cymunedau ledled Cymru,meddai Dr Edwards.  

“Dwi’n gyffrous i gydweithio â’n staff canolog ac â’r gweithlu ymroddedig ledled ein cylchoedd i sicrhau bod y Gymraeg yn bresennol ym mhob lle mae plant bach – yn rhan naturiol o’u bywydau, o’r dechrau un.”

Ychwanegodd Dr Rhodri Llwyd Morgan: “Wrth edrych ymlaen at gyfnod newydd gyda Catrin wrth y llyw, mae hefyd yn gyfle i ddiolch i Dr Gwenllian Lansdown Davies am ei chyfraniad enfawr i Mudiad Meithrin yn ystod yr un mlynedd ar ddeg y bu’n Brif Weithredwr. 

“Dangosodd Gwenllian arweinyddiaeth eithriadol ar hyd ei hamser gan lwyddo ysgogi datblygiad a thwf y ddarpariaeth fel bod gwasanaethau’r Mudiad a’i aelodau yn medru cyrraedd mwy o deuluoedd nag erioed.”

Bydd Dr Catrin Edwards yn dechrau yn ei rôl ganol Rhagfyr 2025.

Llun: Mudiad Meithrin 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.