
Gwasanaeth coffa i gofio'r bobl a fu farw ar fynyddoedd Eryri
Bydd gwasanaeth coffa newydd yn cael ei gynnal y penwythnos nesaf i gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau ar yr Wyddfa a’r copaon cyfagos.
Cynhelir y gwasanaeth o’r enw Cysgod yr Wyddfa yn Eglwys Nant Peris ddydd Sadwrn 26 Hydref rhwng 17.30 a 18.00.
Y Parchedig Naomi Starkey, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Eryri, sydd wedi trefnu’r digwyddiad, yn dilyn cyfres o farwolaethau ar y mynyddoedd yn ddiweddar.
“Ar ôl byw ym Mro Eryri ers dros flwyddyn, rydw i wedi dod i sylweddoli peryglon yn ogystal â harddwch y dirwedd anhygoel,” meddai’r Parchedig Naomi.
“Mae hi mor ingol clywed am bobl sy’n dod am antur yn y mynyddoedd a sut mae’r antur honno weithiau’n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.”
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae sawl marwolaeth wedi bod ar yr Wyddfa a’r llwybrau cyfagos, gan gynnwys digwyddiadau ar Grib Goch, sydd uwchben Eglwys Nant Peris.

Dywedodd y Parchedig Naomi fod y penderfyniad i drefnu’r digwyddiad wedi dod yn rhywbeth personol, ar ôl i’w mab 23 oed gael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain beic yr haf hwn.
“Fel mam yn ogystal â ficer, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i nodi’r colledion diweddar hynny a’r nifer fawr o rai eraill dros y blynyddoedd.”
Bydd y gwasanaeth dwyieithog yn "fan agored ar gyfer myfyrio tawel" yn hytrach na gwasanaeth eglwys ffurfiol.
Bydd yn cynnwys cerddoriaeth ysgafn, darlleniadau, a’r cyfle i gynnau cannwyll.
“Rwyf eisiau darparu lle i alaru a chofio mewn lle cysegredig yng nghanol Eryri,” ychwanegodd y Parchedig Naomi.
Mae croeso i unrhyw un fynychu, gan gynnwys teuluoedd y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac aelodau o’r gymuned achub mynydd.
Bydd yna gasgliad ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis, y tîm achub prysuraf yn y DU, a wnaeth ymateb i fwy na 300 o alwadau yn 2025.
Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad coffa o’r fath gael ei gynnal ac yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, mae’n bosibl y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.
Prif lun: Eglwys Nant Peris a'r Parchedig Naomi Starkey (Hefin Owen/Eglwys yng Nghymru)