Rhyddhau llanc ar fechnïaeth wedi marwolaeth dynes mewn tân

Ffordd Henllys Cwmbran

Mae llanc 17 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl iddo gael ei arestio yn dilyn marwolaeth menyw 75 oed mewn tân yng Nghwmbrân, Torfaen.  

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd. 

Bu farw'r fenyw yn y tân ar Ffordd Henllys yn y dref nos Sadwrn.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent nos Lun bod eu hymholiadau'n parhau. 

Dywedod yr Uwcharolygydd Laura Bartley: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r ddioddefwraig wrth i ni gynnal ein hymchwiliad 

“Mae'r tîm ymchwilio yn ceisio darganfod yr holl amgylchiadau yn arwain at y tân." 

Ychwanegodd bod hwn yn dal i fod yn ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan yr heddlu, ac nad ydy'r llu yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad. 

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol,” meddai. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.