'Does dim angen bod mewn perthynas': Mwy o bobl sengl yn mabwysiadu
'Does dim angen bod mewn perthynas': Mwy o bobl sengl yn mabwysiadu
Mae mwy o bobl sengl a chyplau un rhyw yn dewis mabwysiadu plant yng Nghymru nag erioed o'r blaen, yn ôl ystadegau diweddar.
Ers i'r gwasanaeth gael ei sefydlu dros ddegawd yn ôl, mae nifer y cyplau un rhyw sy'n mabwysiadu plant wedi cynyddu 22% tra bo nifer y bobl sengl sy'n mabwysiadu i fyny 10%.
Wrth siarad a Newyddion S4C fe ddywedodd Alaw Jones, sydd wedi bod trwy'r broses ar ei phen ei hun, fod mabwysiadu y peth gorau iddi wneud.
"Odd y syniad yn fy mhen bod ti angen bod mewn perthynas er mwyn gallu mabwysiadu. Wedyn nes i edrych mewn i'r peth a sylwi does dim angen bod mewn perthynas, a bod 'na lot o bobol yn mabwysiadu yn sengl, genod a hogia," meddai.
"Mae o'n anodd ar adegau - fi sy'n cael 100% o bob dim. 100% o'r stress, 100% o drio trefnu lle mae pawb angen bod, ond fi sy'n cael 100% o'r cariad. 'Da ni'n deall ein gilydd yn iawn, ma hi'n girlpower go iawn yma.
"Mae'n siwrne heriol o ran yr asesu, ond wedyn ma' nhw'n gofyn lot ohono ni o ran cymryd plant sydd efo stori. Ma' gyda nhw hanes cyn dod ato ni. Ma' magu'n gyffredinol yn heriol, nid mond plant sydd wedi eu mabwysiadu sy'n heriol. Be' sy'n bwysig yw bod ni'n rhoi amser i sgwrsio am yr hanes cychwynnol 'na a bod ni yn i gefnogi nhw, i ddeall yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw."
Gyda thair o ferched bach i ofalu amdanyn nhw erbyn hyn, mae bywyd yn brysur fel mam sengl, ond mae mabwysiadu yn bwnc "normal" ar yr aelwyd.
"Yn ein teulu ni, mae o'n norm i raddau. Mae'n chwaer i wedi mabwysiadu dwy hefyd. Fe ofynnodd Nansi ychydig ddyddiau nol 'pryd ges ti dy fabwysiadu mam?' achos i hi, dyna ydy'r norm. Rŵan bod yr un fach yma, mae Nansi wedi dod i ddeall bod hi ddim yn chwaer genedigol iddi. Ond fysa Nansi yn dweud yn syth mai cariad sy'n creu teulu, dim gwaed, " meddai Alaw Jones.
Gyda chynnydd yn nifer y bobl sengl a chyplau un rhyw yn dewis mabwysiadu plant yng Nghymru, mae Alaw yn credu taw parodrwydd pobl i siarad a rhannu profiadau sy'n rhannol tu ol i'r newid.
"Dwi'n credu bod mwy o bobol yn sgwrsio. Dwi'n gwybod fy mod i fy hun yn barod i sgwrsio. Dyna'r ffordd gorau ymlaen, bod pobol yn rhannu eu profiadau nhw. Er ei fod e'n anodd mae 'na lot o bleserau i gael ohonno fe a ma 'na fwy o blant sydd angen eu mabwysiadu. Y mwya ni'n siarad amdano ac yn rhannu ein profiadau ni y mwya sy'n mynd i ddod mlan wedyn i geisio mabwysiadu."
Y Gymraeg
Yn ôl Alaw, mae tipyn o gefnogaeth ar gael, ond efallai nad yw hwnnw bob tro yn amlwg, ac mae hi'n credu bod bwlch pan ma hi'n dod i gefnogaeth yn y Gymraeg.
"O ran cefnogaeth ol-fabwysiadu, ma bob gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru yn cynnig y gefnogaeth ol-fabwysiadu. Weithiau mae'n rhaid mynd i chwilio amdano fe, bod e ddim cymaint ar gael a bod pobol ddim yn gwybod beth sydd ar gael.
"Mi nath na grwp gychwyn i fabwysiadwyr Cymraeg, ond yn anffodus doedd 'na ddim digon o gyllid i gario hwnna mlaen. Felly y gobaith yn y dyfodol yw bod ni fel rhieni yn gallu cario hwnna mlaen ein hunain heb cefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol."