Cwpl o'r gogledd yn poeni eu bod wedi colli buddsoddiad o £430,000

Cwpl o'r gogledd yn poeni eu bod wedi colli buddsoddiad o £430,000

Mae cwpl o ogledd Cymru yn ofni eu bod wedi colli dros £400,000, ar ôl buddsoddi mewn cwmni rheoli asedau. 

Roedd 3,700 o bobl wedi buddsoddi yng nghwmni y 79th Group, gyda dros £200 miliwn bellach yn ddyledus.

Ond ym mis Ebrill eleni, aeth y cwmni sydd wedi ei leoli yn Southport i ddwylo'r gweinyddwyr, gan adael miloedd o fuddsoddwyr heb eu harian.

Wrth siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C, dywedodd Angharad ac Alun, nid eu henwau iawn, fod y sefyllfa wedi'u gadael mewn "lle tywyll iawn".

Image
Angharad ac Alun
Fe wnaeth Angharad a Alun, nid eu henwau iawn, ddechrau buddsoddi yng nghwmni'r 79th Group 10 mlynedd yn ôl

"Mae wedi ein gwneud ni'n sâl. Rydym wedi cael ein gadael mewn sefyllfa anobeithiol. Mae ein bywydau wedi cael eu heffeithio mewn ffordd na allwn fyth faddau i'r busnes am yr hyn a wnaethon nhw i ni," meddai Angharad.

Roedd y cwmni yn dweud eu bod nhw'n rheoli asedau a datblygu eiddo, gan gynnig llog uchel ar fuddsoddiadau. 

Dywedodd Alun eu bod wedi dechrau buddsoddi tua 10 mlynedd yn ôl, gan ddechrau gyda buddsoddiad o £5,000 neu £10,000 ar y tro. 

“Wrth i chi fuddsoddi mwy a mwy, bydd y gyfradd llog yn gwella. Efallai 12% ac felly hefyd mae'r gyfradd llog yn cynyddu,” meddai Alun.

Gyda’r llog yn tyfu dros y blynyddoedd, roedd gan y cwpwl £430,000 yn eu cyfrif erbyn eleni.

Dyma’r un cwmni a wnaeth brynu Parc Penrhos yn Sir Fôn ym mis Ionawr eleni gyda chynlluniau dadleuol i’w ddatblygu fel pentref gwyliau.

Dywedodd y 79th Group mai prynu Penrhos oedd eu datblygiad "mwyaf uchelgeisiol eto".

Fe aeth Angharad ymlaen, “Roedd o i weld yn gweithio yn dda, ac y mwya o bres oedd yn dod i law, oedda ni wedyn yn gallu buddsoddi mwy. Ma’ hynny yn ei le wedi galluogi ni i ymddeol.”  

Ym mis Chwefror eleni, fe gadarnhaodd Heddlu Dinas Llundain eu bod yn ymchwilio i honiadau o dwyll eang gan y 79th Group a bod pedwar person sy’n gysylltiedig â’r cwmni wedi’u harestio.

Image
79th

Mewn datganiad ar y pryd fe wnaeth y 79th Group wadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Erbyn mis Ebrill, roedd y 79th Group wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae Angharad ac Alun yn pryderu na fyddan nhw fyth yn cael eu harian yn nôl. 

“Mae’r ddau ona ni ’di bod mewn lle tywyll. Maen edrych yn debygol fydd rhaid ni fynd nôl i’n gwaith ar yr union adeg ‘da chi’n gobeithio da chi medru retirio,” meddai Alun.

Ychwanegodd Angharad, “Mae o yn gadael rhywun mewn sefyllfa desprate ofnadwy. Mae ein bywydau ni wedi cael eu heffeithio mewn ffordd na allai byth faddau i’r busnes am be’ mae nhw di neud i ni.” 

Roedd gan y 79th Group filoedd o fuddsoddwyr yn Ewrop, Asia, y Dwyrain Canol a sawl un o Gymru.

Image
Nest
Nest Jenkins, Gohebydd Y Byd ar Bedwar

Un arall o Gymru a benderfynodd fuddsoddi, yw Emma, nid ei henw iawn.

Fe fuddsoddodd Emma £50,000 ym mis Tachwedd llynedd, gyda’r addewid y bydde hi’n derbyn £3,750 ddwy waith y flwyddyn, gyda llog o 15% ar y buddsoddiad gwreiddiol.

Dydy Emma fyth wedi derbyn y llog a does dim golwg chwaith o’r £50,000 a gafodd ei fuddsoddi. 

Dywedodd, “ ‘Ni ‘di gorfod torri lawr ar bwyd, trydan, gwres, petrol ni’n dodi yn y car, teithio, gwyliau ni’n mynd ar. Ail feddwl popeth.

“Mae fe’n galed disgrifio shwt fi’n teimlo - numb - falle bod fi ‘di dodi hunan fi yn y sefyllfa hyn a bod nhw ‘di bod mor greulon, bod nhw’n meddwl bod nhw’n gallu mynd â arian pobl sydd wedi gweithio’n galed am yr arian yna.”

Fe ddywedodd Heddlu Dinas Llundain eu bod yn parhau â'u hymchwiliad i amheuaeth o dwyll eang sy'n ymwneud â'r 79th Grŵp a bod yr achos yn sylweddol a chymhleth.

Maent am sicrhau’r cyhoedd eu bod yn cymryd yr ymchwiliad o ddifrif ac am gefnogi’r dioddefwyr trwy’r broses.

Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi cysylltu â chyfarwyddwyr y 79th Group, David Webster, Curtis Webster a Jake Webster, ond heb dderbyn unrhyw ymateb. 

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, ‘Colli Penrhos, Colli Popeth’ nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.