Pizza Hut i gau degau o fwytai ar ôl galw'r gweinyddwyr
Bydd Pizza Hut yn cau 68 bwyty yn y Deyrnas Unedig ar ôl i'r cwmni sy'n gyfrifol amdanyn nhw fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Penododd DC London Pie y gweinyddwyr ddydd Llun, lai na blwyddyn ar ôl i'r cwmni brynu'r gadwyn o fwytai.
Ddydd Llun hefyd, cyhoeddodd y cwmni arlwyo Americanaidd Yum! Brands, sy'n berchen ar fusnes rhyngwladol Pizza Hut, eu bod bellach wedi prynu adain y cwmni yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y pecyn yn achub 64 o leoliadau ac yn diogelu swyddi 1,277 o weithwyr.
Dywedodd Nicolas Burquier, rheolwr gyfarwyddwr Pizza Hut yn Ewrop a Chanada: “Nod y cynllun hwn yw diogelu'r profiad ar gyfer ein gwesteion a gwarchod swyddi lle mae hynny'n bosibl.”
Nid yw lleoliadau y bwytai a fydd yn cau yn glir.