Claire Hughes, AS Bangor Aberconwy â chanser y fron
Mae’r Aelod Seneddol dros etholaeth Bangor Aberconwy, Claire Hughes wedi derbyn triniaeth, ar ôl cael diagnosis o ganser y fron.
Mae Ms Hughes, sydd yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru, wedi datgelu ei bod wedi cael llawdriniaeth ddydd Gwener, ar ôl darganfod lwmp yn gynharach yn y mis.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd yr AS a gafodd ei hethol y llynedd, y bydd yn derbyn triniaeth chemotherapi a radiotherapi dros yr wythnosau a misoedd nesaf.
Dywedodd Claire Hughes: “Dros yr egwyl [Seneddol], fe gefais ddiagnosis canser y fron.
Inline Tweet: https://twitter.com/clairehughesBA/status/1980184947533996331
“Mae’r diagnosis a’r driniaeth 'dw i wedi eu derbyn hyd yma yn Ysbyty Gwynedd wedi bod yn wych, a dw i mor falch, diolch i’r GIG anhygoel yma yng Nghymru, nad y peth cyntaf wnes i feddwl oedd, ‘sut ydw i am dalu am hyn?’
“Felly tra fy mod i’n debygol o angen cymryd cam bach yn ôl dros yr wythnosau a misoedd nesaf, o ran peidio bod allan ac o gwmpas yr etholaeth gymaint ag arfer, rydw i eisiau i chi wybod fy mod i dal yma i’ch cynrychioli chi, i frwydro ar eich rhan.
“Bydda' i’n gwneud fy ngorau glas i ddod dros hyn, i ddychwelyd a gwneud fy rôl fel eich AS gan ymladd dros ein dyfodol ym Mangor Aberconwy.”