Cyhuddo dyn 18 oed o lofruddiaeth wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Heol Trelai, Caerau, Caerdydd

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i fenyw 38 oed a gafodd ei hanafu yng Nghaerdydd fis diwethaf farw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Trelái yn Caerau, Caerdydd toc cyn 12.30 ddydd Sadwrn Medi 27 wedi adroddiadau bod gyrrwr mewn car wedi gwrthdaro gyda sawl cerddwr.

Fe gafodd Shelley Davies o Caerau yng Nghaerdydd anafiadau yn ystod y digwyddiad ac fe fuodd hi farw yn yr ysbyty ddydd Sadwrn.

Wedi'r gwrthdrawiad cafodd Kian Bateman, sydd yn ddyn lleol 18 oed ei arestio ar amheuaeth o niwed corfforol difrifol ac o achosi anafiadau difrifol trwy yrru yn beryglus. Fe gafodd ei ryddhau tra bod yr heddlu yn parhau i ymchwilio.

Ond mae Kian Bateman nawr wedi ei arestio eto a'i gyhuddo o lofruddio Shelley Davies.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y Llys Ynadon yn ddiweddarach. Mae hefyd wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol iawn mewn cysylltiad â dioddefwr arall.

Llun: Google Maps

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.