Cadoediad heddwch Gaza dal yn ei le medd Trump
Mae Donald Trump wedi dweud bod y cadoediad heddwch yn dal yn ei le wedi i Israel gynnal ymosodiadau awyr ar ddinas Rafah yn ne Gaza.
Mae'r ddwy ochr - Israel ac Hamas - wedi bod yn beio ei gilydd am dorri'r cytundeb.
Ddydd Sul fe ddywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel fod eu milwyr yn chwalu "seilwaith terfysgol" yn ardal Rafah, yn unol â'r cytundeb cadoediad, pan saethodd aelodau o Hamas tuag atyn nhw. Yn ôl Israel fe gafodd dau o'i milwyr eu lladd.
Mae Hamas yn dweud nad oedden nhw yn "ymwybodol" o unrhyw wrthdaro yn yr ardal.
Yn ôl y BBC mae ffynonellau wedi dweud bod 44 o bobl wedi eu lladd yn sgil yr ymosodiadau awyr.
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi dweud bod hi'n bosib nad oedd arweinwyr Hamas yn gyfrifol am dorri'r cadoediad fel y mae Israel yn honni.
Ychwanegodd bod y bai ar "rhai gwrthryfelwyr oddi mewn".
"Fe fydd yn cael ei ddelio ag o yn gadarn ond yn gywir," meddai Mr Trump.
Mae llysgenhadon o America ar eu ffordd i Israel er mwyn trafod y cadoediad yn ddiweddarach.