Virginia Giuffre yn poeni y byddai yn 'marw fel caethwas rhyw'

Virginia Roberts

Roedd Virginia Giuffre yn poeni y byddai yn "marw fel caethwas rhyw" yn nwylo Jeffrey Epstein a'i gylch o ffrindiau meddai'r BBC.

Mae'r BBC wedi cael gafael mewn copi o hunangofiant Ms Giuffre. Mae disgwyl i'r llyfr gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Virginia Giuffre farw drwy hunanladdiad chwe mis yn ôl.

Yn yr hunangofiant mae'n dweud iddi gael rhyw gyda'r Tywysog Andrew dair gwaith, gan gynnwys unwaith gyda Epstein ac wyth o ferched ifanc eraill.

Fe ddaeth y Tywysog Andrew i setliad ariannol gyda Ms Giuffre yn 2022. Mae wastad wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le.

Yn ôl y BBC mae'r llyfr yn creu darlun tywyll o'r gamdriniaeth ar ferched ifanc gan bobl bwerus a chyfoethog.

Mae Ms Giuffre yn sôn am y manylion am yr adegau y cafodd ryw gyda'r Tywysog Andrew ond hefyd yn rhoi manylion eraill am y masnachu rhywiol oedd yn digwydd o dan law Epstein. 

Mae'r llyfr meddai'r BBC yn sôn bod y merched fod edrych fel "plant" a bod anhwylder bwyta Virginia Giuffre wedi ei "annog".

"Ces i fy nefnyddio a fy ngwawdio yn gyson, ac mewn rhai achosion fy nhagu, fy mwrw ac roeddwn yn waedlyd. Roeddwn i yn meddwl efallai y bydden ni yn marw fel caethwas rhyw," meddai Ms Giuffre yn yr hunangofiant.

Ddydd Gwener fe ddywedodd y Tywysog Andrew y byddai yn ildio ei holl deitlau, gan gynnwys ei deitl brenhinol mwyaf adnabyddus, Dug Efrog.

Ond mae'r hunangofiant yn rhoi mwy o bwysau ar y Tywysog ac ar y teulu brenhinol.

Ddydd Sadwrn fe ddywedodd y Mail on Sunday bod y Tywysog Andrew wedi gofyn i Heddlu’r Met ymchwilio i Virginia Giuffre cyn i'r papur newydd gyhoeddi llun ohoni gyda'r Tywysog.

Mae teulu Ms Giuffre wedi galw ar y Brenin Charles i gymryd teitl tywysog Andrew oddi arno.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.