Joe Morrell yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol yn 28 oed
Mae'r chwaraewr canol cae, Joe Morrell, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o bêl-droed proffesiynol yn 28 oed.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y chwaraewr, sydd wedi derbyn 37 o gapiau dros Gymru, nad oedd modd iddo barhau i chwarae bellach.
"Nid yw hyn yn rhywbeth yr oeddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn ei ysgrifennu yn 28 oed, ond heddiw rwyf wedi ymddeol yn swyddogol o bêl-droed proffesiynol," meddai.
"Ar ôl bron i ddwy flynedd o adsefydlu, gan geisio cael fy nghorff yn ôl i le i hyfforddi, chwarae a chystadlu yn y gêm broffesiynol, mae'n rhaid i mi gyfaddef y ffaith nad ydw i'n gallu gwneud hyn bellach.
"Mae wedi bod yn 21 mis anhygoel o anodd, yn llawn addewid, gobaith, dagrau ac eiliadau tywyll, ond rwy'n derbyn y ffaith na fyddaf fyth yn gallu chwarae eto."
Ychwanegodd Morrell, sy'n gyd-berchennog ar CPD Merthyr: "Ni allaf ddiolch digon i'm ffrindiau agos, fy nheulu ac yn bwysicaf oll fy ngwraig anhygoel, am y gefnogaeth maen nhw wedi'u rhoi i mi yn ystod yr amser hwn.
"Rwy'n credu'n gryf y byddaf yn dod allan o'r cyfnod hwn yn berson mwy gwydn a chyflawn gyda mwy o bersbectif ar yr hyn sy'n bwysig mewn bywyd."
Nid oedd ganddo gytundeb llawn amser gydag unrhyw glwb cyn cyhoeddi ei ymddeoliad..
Llun: CBDC