Tensiynau'n cynyddu ar y ffin rhwng Serbia a Kosovo

Mae tensiynau wedi cynyddu ar y ffin rhwng Serbia a Kosovo dros y penwythnos, wrth i reolau newydd i Serbiaid yn Kosovo ddod i rym.
O ddydd Llun roedd angen i Serbiaid newid platiau adnabod eu cerbydau i rai Kosovo, ac roedd angen gwaith papur ychwanegol arnynt yn y rhanbarth.
Mae'r mesurau hyn mewn grym yn barod i bobl o Kosovo sydd yn byw yn Serbia.
Yn dilyn adroddiadau o wrthdaro nos Sul mae'r camau newydd hyn wedi eu hatal am y tro.
Bydd y datblygiad diweddaraf yn bryder i luoedd cadw heddwch NATO sydd yn gweithredu yn yr ardal, ac mae cryn ddyfalu os yw'r tensiynau'n rhan o gynllun ehangach gan lywodraeth Serbia i gynyddu'r pwysau ar NATO yng nghanolbarth Ewrop.
Mae llywodraeth Belgrad yn gefnogol i Vladimir Putin, ac mae ofnau fod y ddwy lywodraeth yn cydlynu'r tensiwn er mwyn ymledu'r gwrthdaro gwleidyddol sydd wedi datblygu yn Wcráin eleni.
Darllenwch ragor yma.