Newyddion S4C

Penderfyniadau 'anodd’ i Golwg yn sgil cynnydd mewn costau

01/08/2022

Penderfyniadau 'anodd’ i Golwg yn sgil cynnydd mewn costau

Bydd rhaid i Golwg wneud “penderfyniadau anodd” yn y dyfodol am godi pris y cylchgrawn print yn sgil cynnydd mewn costau.

Dywedodd Prif Weithredwr Golwg, Owain Schiavone, wrth Newyddion S4C fod cynnydd mewn costau papur yn “her” i’r cwmni.

Daw hyn wedi i’r wefan newyddion Golwg360 golli £100,000 y flwyddyn o arian nawdd ar ôl i’w grant gan Gyngor Llyfrau Cymru gael ei haneru.

Dywedodd ei fod yn rhagweld mai’r cynnydd mewn costau creu a dosbarthu’r cylchgrawn fyddai’r her fwyaf i’r cwmni “yn y flwyddyn nesaf”.

“’Dan ni’n gwbod am y broblem o ran ynni ar hyn o bryd.  Ma’ pris papur wedi cynyddu yn barod,” meddai.

“‘Dan ni ‘di cael gwybod gan ein argraffwyr ni bod y costau argraffu yn mynd i gynyddu a ma’n dosbarthwyr ni rŵan yn dechrau gwneud synau tebyg hefyd ynglŷn â costau iddyn nhw ddosbarthu y cylchgrawn print.”

Image
Owain Schiavone
Mae Owain Schiavone wedi bod yn Brif Weithredwr ar Golwg a Golwg360 ers mis Mawrth.

‘Cynulleidfa dal yno’

Dywedodd Owain Schiavone, a olynodd Siân Powell fel Prif Weithredwr Golwg fis Mawrth, fod y cynnydd mewn costau yn rhoi dau opsiwn i’r cwmni.

“Ma’ honna yn her ac yn anffodus mae’n rhaid i ni ‘neud penderfyniadau anodd ydan ni’n pasio’r gost yna ‘mlaen i’r darllenwyr, sydd yn risg achos ‘dach chi’n mynd i golli gwerthiant os ‘dach chi yn cynyddu pris unrhyw beth,” meddai.

“Neu ydan ni yn mynd i jyst gobeithio am y gorau a cymryd yr hit mewn ffordd o ran y costau ychwanegol.

“Felly mae’n her ond ‘dan ni’n weddol ffyddiog ar yr un pryd hefyd bod y gynulleidfa dal yno a bo ni’n parhau i gyrraedd cynulleidfa newydd a dyna fyddwn ni’n parhau i ymdrechu i wneud.”

Dywedodd Mr Schiavone fod colli hanner eu grant gan y Cyngor Llyfrau wedi “ychwanegu her” i’r cwmni.

Mae’r £200,000 y flwyddyn bellach wedi ei rannu rhwng Golwg360 a chwmni Newsquest ar gyfer ei wasanaeth newyddion Cymraeg Corgi Cymru.

“’Di colli arian byth yn beth braf ond dwi’n meddwl bod gynnon ni’r tîm sydd yn gallu ymateb i’r her honno,” meddai.

“Mae Golwg bob amser wedi esblygu ac ymateb i’r trends diweddara’ ag y ffordd mae’r sîn yn newid fel petai.”

Image
Barrie Jones
Mae Barrie Jones yn dweud nad yw'r Cymro wedi teimlo heriau costau ychwanegol hyd yma.

‘Brand eiconig’

Mae’r Cymro yn bapur newyddion a oedd yn flaenorol dan berchnogaeth y cwmni cyhoeddi Tindle Newspapers.

Fe ddaeth i ben yn 2017 ac erbyn hyn tîm o wirfoddolwyr sydd yn gyfrifol amdano wedi iddynt adfywio’r papur yn 2018.

Barrie Jones yw Uwch Olygydd Ymgynghorol Y Cymro ac mae’n dweud nad yw’r papur misol wedi gweld effaith y cynnydd mewn costau yn yr un modd.

“’Dan ni’n cael nawdd a ‘dan ni’n falch iawn o’i gael o gan y Cyngor Llyfrau,” meddai.

“Tîm bach iawn sydd gan Y Cymro ond mae o’n frand eiconig sydd wedi bod yng Nghymru ers blynyddoedd maith.

“Ma’ pobl jyst yn falch o’i weld e yn ôl ar y silffau ac er mai misol ydi o, dwi’n credu fod o’n gwella.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.