Medal aur gyntaf i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad

31/07/2022
Medal aur / Tîm Cymru

Mae Tîm Cymru wedi ennill eu medal aur gyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad. 

Enillodd James Ball a Matthew Rotherham y fedal aur yn y gystadleuaeth Tandem B Sbrint i ddynion yn y seiclo.

​​​​​​Ychydig yn ddiweddarach, enillodd Iestyn Harrett, Olivia Mathias, Dominic Coy a Non Stanford y fedal arian yn y ras gyfnewid gymysg yn y triathlon.

Mae hyn yn golygu bod Tîm Cymru wedi ennill 5 medal hyd yma, a hynny ar drydydd diwrnod y cystadlu.

Llun: Tîm Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.