Newyddion S4C

Cynllun i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg yn cael ei ehangu

Cynllun i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg yn cael ei ehangu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd y cynllun i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg yn cael ei ehangu. 

Fe gafodd cynllun Diogelwn ei lansio yn 2021 er mwyn sicrhau y byddai perchnogion yn gallu diogelu enwau tai Cymraeg, ond erbyn hyn, bydd bellach yn cynnwys enwau ar dir. 

Daw hyn wedi i'r enw Banc y Cornicyll gael ei ddisodli gan yr enw Hakuna Mattata ar y map ordnans.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun. 

'Ysu am ddeddfwriaeth'

Bydd y cyfreithiwr, Simon Chandler, yn siarad yn y digwyddiad ar stondin Cymdeithas, a dywedodd wrth Newyddion S4C bod "cynllun Diogelwn yn rhan o gywaith, 'da ni gyd yn ysu am ddeddfwriaeth i warchod enwau Cymraeg ac enwau lleoedd a thir.

"Mae hyn yn rhan o'r cywaith i argyhoeddi Llywodraeth Cymru i ddeddfu, yn sicr, i ddwyn pwysau ar y llywodraeth i wneud hynny."

Er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosib i unrhyw un ddiogelu enw eu cartref neu ar eu tir, mae Cymdeithas yr Iaith wedi darparu cymalau a dogfennau sy'n cynnwys cyfamodau safonol ar eu gwefan.

Yn ystod y digwyddiad, bydd Howard Huws yn trafod ymgyrch Cylch yr Iaith sy'n rhoi pwysau ar y llywodraeth i gael deddf er mwyn atal enwau Cymraeg rhag cael eu newid i'r Saesneg.

Dywed Cylch yr Iaith bod hyn yn "ymosodiad ar ran allweddol o’n hetifeddiaeth fel cenedl, ac yn tanseilio’r hyn sy’n diffinio’n gwlad yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol; mewn gair, ein hunaniaeth fel Pobl."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod enwau Cymraeg yn yr amgylcheddau adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ymgynghorwyd ar ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a oedd yn cynnwys cynigion i ddiogelu enwau lleoedd a thai.

"Bydd y Cynllun yn cael ei gyhoeddi eleni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.