Wcráin: Zelensky yn gorchymyn pobl i adael Donetsk

Mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi gorchymyn bod pobl yn gadael ardal Donetsk yn sgil ymladd ffyrnig gyda Rwsia.
Yn ei anerchiad nosweithiol, dywedodd yr arlywydd bod y cannoedd o filoedd o bobl sy'n parhau yn yr ardaloedd ymladd yn rhanbarth Donbas hefyd angen gadael.
"Po fwyaf o bobl sy’n gadael Donetsk rwan, y lleiaf o bobl y bydd gan fyddin Rwsia amser i ladd,” meddai.
Mae'r wasg yn y wlad hefyd yn honni bod y Dirprwy Brif Weinidog, Iryna Vereshchuk , wedi dweud bod pobl angen gadael cyn y gaeaf oherwydd bod adnoddau nwy naturiol y rhanbarth wedi eu dinistrio.
Mae Donetsk wedi profi ymladd ffyrnig yn y dyddiau diwethaf, yn enwedig yn nhref ddwyreiniol Bakhmut, sef canolbwynt i ymosodiad Rwsia yn y Donbas.
Darllenwch fwy yma.