Newyddion S4C

Cronfa Elusennol y Tywysog Charles 'wedi derbyn cyfraniad gan deulu Osama bin Laden'

Sky News 31/07/2022
Charles

Fe wnaeth Cronfa Elusennol y Tywysog Charles dderbyn cyfraniad gan deulu Osama bin Laden yn 2013.

Yn ôl The Sunday Times, fe wnaeth Tywysog Cymru gwrdd â hanner brawd sylfaenydd al Qaeda yn Llundain, a'r gred yw ei fod wedi cytuno i dderbyn £1m. 

Mae'r adroddiad hefyd yn honni bod llawer o ymgynhorwyr agosaf y tywysog wedi erfyn arno i ddychwelyd yr arian. 

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y gronfa bod "y cyfraniad gan Sheik Bakr bin Laden yn 2013 wedi cael ei ystyried yn ofalus gan ymddiriedolwyr y gronfa ar y pryd.

"Fe gafodd gwybodaeth ei chasglu gan amryw o ffynonellau, gan gynnwys y llywodraeth. Fe gafodd y penderfyniad i dderbyn y rhodd ei gymryd yn gyfan gwbl gan yr ymddiriedolwyr. Mae unrhyw ymgais i awgrymu fel arall yn gamarweiniol ac yn anghywir."

Osama bin Laden oedd yn gyfrifol am ymosodiadau 11 Medi 2001, gan ladd bron i 3,000 o bobl yn yr UDA. 

Darllenwch fwy yma. 

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.