Newyddion S4C

Hanes Tregaron: ‘Yr unig dref Gymreig yng Ngheredigion’

Hanes Tregaron: ‘Yr unig dref Gymreig yng Ngheredigion’

Tregaron yw’r “unig dref Gymreig yng Ngheredigion”, yn ôl awdur llyfr ar hanes y dref.

Mae’r Parchedig Ddoctor D. Ben Rees newydd gyhoeddi llyfr Hanes Tregaron a’r Cyffiniau.

Fe gafodd y llyfr ei lansio yn swyddogol mewn digwyddiad yn Y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sadwrn.

Fe ddaeth y cyfle i ysgrifennu’r llyfr pan ddaeth Covid-19, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o’r bobl “nad oedd wedi cael llawer iawn o sylw mewn unrhyw gyfrol arall”.

Dywedodd fod y trefi eraill yn y sir “yn perthyn i’r Normaniaid”.

66.9% oedd y canran o siaradwyr Cymraeg yn y dref yn ôl cyfrifiad 2011.

Dyma oedd y canran uchaf o holl wardiau etholiadol Ceredigion.

“Pwy bynnag oedd yn dod i Tregaron fe’i golchwyd nhw gan amlaf i fod yn Gymru,” ychwanegodd.

Image
D Ben Rees
Yn ôl y Parchedig Ddoctor D Ben Rees, Tregaron yw'r "unig dref Gymreig yng Ngheredigion".

'Bytholwyrdd'

Un cymeriad o’r gymuned sydd yn “fytholwyrdd” a'i enw yw Henry Richard, yn ôl Dr Rees.

Roedd yn Aelod Seneddol rhwng 1868 ac 1888 ac erbyn hyn mae ysgol yn y dref wedi ei henwi ar ei ôl.

“Mae Tregaron erbyn heddiw yn un o’r bröydd mwyaf Cymreigaidd yng Ngheredigion,” meddai.

Mae dros 300 o dudalennau yn y llyfr yn olrhain hanes y dref, gan gynnwys pennod yn canolbwyntio ar Caron a Dewi Sant.

Cafodd y dref ei henwi ar ôl Caron, un o frenhinoedd Cymru a wnaeth ymladd yn erbyn y Rhufeiniad.

Pan fu farw Caron, aeth yr Eglwys ati i’w ganoneiddio a’i wneud yn Sant.

'Tregaron ar gynfas'

Ar lefel bersonol, dywedodd Dr Rees ei fod yn gallu olrhain ei goeden deuluol ar ochr ei fam “yn ôl i 1701”.

“Mae dros dair canrif o fy nheulu i wedi byw yn y fangre hon, y dyffryn yma,” meddai.

Ychwanegodd Dr Rees fod dyfodiad Ysgol Tregaron yn 1897 yn “gymorth mawr i’n treftadaeth ni”.

“Fe fagodd ysgol sir Tregaron rhai o enwogion pennaf Cymru, dwn i ddim beth fyddai Plaid Cymru wedi gwneud heb Ysgol Tregaron,” meddai.

“Fe edwinodd y rhain i gyd i osod Tregaron ar gynfas map Cymru a Lloegr a’r byd.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.