Newyddion S4C

Costau byw: 'Llai o roddion' i fanc bwyd yng Ngheredigion

31/07/2022

Costau byw: 'Llai o roddion' i fanc bwyd yng Ngheredigion

Mae banc bwyd yng Ngheredigion wedi gweld "llai o roddion" yn y misoedd diwethaf yn sgil yr argyfwng costau byw.

Ond yn ôl un o wirfoddolwyr Banc Bwyd Llandysul, mae'r banc wedi gweld "cynnydd aruthrol" yn y galw am gymorth.

Mae Owenna Davies yn Llywydd Merched y Wawr yn Rhanbarth Ceredigion ac mae hi wedi gwirfoddoli gyda Banc Bwyd Llandysul ers sawl blwyddyn.

"Ni 'di gweld e ar y ddwy ochr," meddai.

"Ma' llai o roddion yn dod mewn i'r banc bwyd a hefyd wrth gwrs mae gennych chi gynnydd, lawer mwy o bobl, o focsys yn mynd allan yn ystod yr wythnos nawr, o bobl sydd yn gofyn am y cymorth 'ma. 

"Oherwydd gwedwch chi ma' 'na fil mawr yn dod i'r tŷ yn sydyn reit, beth sy'n digwydd?  Ma' rhaid talu'r bil yna.  Beth sy'n cael ei adael?  Bwyd. 

"A 'yn ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn ystod y misoedd diwetha' a disgwyl gweld y cynnydd 'na'n parhau 'yn ni'n 'neud yn ystod y cyfnod sy'n dod nawr."

Image
Owenna Davies
Mae Owenna Davies wedi gwirfoddoli ym Manc Bwyd Llandysul ers sawl blwyddyn.

'Balchder'

Ddiwedd mis Ebrill fe rybuddiodd elusen Trussell Trust sy'n darparu banciau bwyd ar draws y Deyrnas Unedig am "argyfwng cynyddol" wrth i'r galw am fwyd gynyddu "yn ddramatig".

Ond yn ôl Owenna, mae rhai pobl yn amharod i ofyn am gymorth y banc bwyd yn yr ardal.

"Ma' gynnoch chi gymunedau gwledig i gael sydd ddim yn cwrdd â'r anghenion yna oherwydd 'dy y rhieni ddim yn fodlon cyfaddef bod 'na angen i gael yna," meddai.

"Mae'r balchder yna a mae e'n gudd yng nghefn gwlad.  Dwi'n credu bod 'na bobl, mae'r un mor wir cofiwch yn nifer o gymunedau trefol, ond dwi'n credu yng nghefn gwlad bod e'n fwy amlwg na beth yw e'n drefol. 

"Pobol yn gyndyn iawn i ddod ymlaen a cydnabod mae'n rhaid i ni gael help."

Llun: Banc Bwyd Llandysul/Facebook

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.