Teyrnged i 'fab cariadus' fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
31/07/2022
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i 'fab cariadus' fu farw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn Sir Benfro brynhawn Gwener.
Bu farw Thomas (Tom) Canton, 22, o bentref Nolton Haven wedi'r gwrthdrawiad ar yr A487 rhwng Solfach a Niwgwl am gwmpas 16:20.
Mewn teyrnged, fe wnaeth ei deulu ddisgrifio fel mab, brawd ac ŵyr clen, meddylgar a chlyfar.
"Roedd yn fachgen anturus, roedd yn caru sglefrfyrddio ac roedd wrth ei fodd yn byw bywyd.
"Bydd colled fawr ar ôl Tom gan ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned."
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220729-307.