Rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 18:00 nos Fawrth ac yn parhau tan 09:00 ddydd Mercher.
Mae disgwyl i rhwng 1 a 3 cm o eira ddisgyn ar dir uwch na 200m, gyda'r eira yn troi yn law ac eirlaw erbyn bore dydd Mercher.
Fe allai rhai ffyrdd a rheilffyrdd gael eu heffeithio, gydag amseroedd teithio hirach ar gyfer gwasanaethau ffyrdd, bws a thrên hefyd yn bosib yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Wrecsam
- Powys