Enwi dyn 29 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pentraeth ar Ynys Môn

Gwrthdrawiad Pentraeth

Mae enw dyn 29 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pentraeth ar Ynys Môn ddiwedd Ionawr wedi cael ei ryddhau. 

Dywed Swyddfa'r Crwner dros Ogledd Orllewin Cymru mai Thomas Arwyn Jones, 29 oed, oedd y dyn a fu farw yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A5025 rhwng Pen-Y-Garnedd a garej Pentraeth Automotive ar 25 Ionawr. 

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys cerbyd llwyd Peugeot 208 a cherbyd Audi A5 Quattro aur. 

Bu farw gyrrwr 29 oed y Peugeot yn y fan a'r lle, ac fe gafodd gyrrwr 22 oed y cerbyd arall ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mewn datganiad ar y pryd, fe ddywedodd y Ditectif Sarjant Katie Davies o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.