Iolo Williams: Llygredd o'r Sea Empress 'y digwyddiad gwaethaf' iddo ei weld
Tri deg mlynedd ers trychineb y Sea Empress, mae’r cyflwynydd Iolo Williams wedi dweud mai dyma oedd y “digwyddiad gwaethaf” iddo weld erioed.
Roedd y Sea Empress yn llong olew a aeth i drafferthion ger porthladd Aberdaugleddau, Sir Benfro, yn 1996.
Ar y pryd, roedd Aberdaugleddau yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd a’r ail fwyaf o’i fath yn Ewrop.
Wedi i’r Sea Empress daro yn erbyn creigiau dan y dŵr fe ollyngodd 72,000 o dunelli o olew i’r môr, cyfwerth â 32 pwll nofio Olympaidd.
Ag yntau yn gweithio i elusen warchod adar y RSPB adeg y llongddrylliad, dywedodd Iolo Williams mewn rhaglen deledu o'r enw Dŵr Du: Trychineb y Sea Empress, bod angen cofio'r hyn a ddigwyddodd er mwyn sicrhau nad yw rhywbeth tebyg yn digwydd eto:
“30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n bwysig bo ni gyd yn cofio ac yn ail-ddweud stori y Sea Empress, fel bo ni ddim yn anghofio beth ddigwyddodd i’r bywyd gwyllt, fel bo ni ddim yn anghofio pam ddigwyddodd o,” meddai.
Llygaid y byd ar Aberdaugleddau
“Pan glywais i’r newyddion gynta’, o’n i’n meddwl, ydy o’n iawn? Es i lawr i Sir Benfro y bore wedyn. Mi roes i’r radio ar yn y car wrth yrru lawr. O’dd o ar bob man, pob sianel, Radio Cymru, Radio Wales, Radio 1, Radio 2, Radio 4, pob peth yn sôn am hyn,” meddai Iolo.
“Neb yn gwybod yn union pa mor fawr o’dd y drychineb ‘ma’n mynd i fod ar y pryd.”
Roedd llygaid y byd ar Aberdaugleddau yn sgil y trychineb, gyda newyddiadurwyr o bob cwr o'r wlad a thu hwnt wedi ymgynnull ger Penrhyn Santes Ann.
“O’n i yn cysgu yn y car achos doedd ‘na ddim gwesty, doedd ‘na ddim gwely a brecwast na dim byd fel ‘na, o’dd o’n llawn o’r wasg,” ychwanegodd Iolo.
Ar ôl tair wythnos yn Aberdaugleddau, cafodd y Sea Empress ei symud i Belfast er mwyn cael ei thrwsio.
Ond tair degawd yn ddiweddarach, mae sgil effeithiau'r trychineb wedi aros gydag Iolo.
“Am ganrifoedd ‘dan ni ‘di defnyddio’r môr fel tomen sbwriel. Dwi’n caru Sir Benfro, mae’n un o ardaloedd hardda’ Cymru heb os nac oni bai, ond nai byth edrych ar Sir Benfro cweit yr un peth eto,” ychwanegodd Iolo.
“Byddai wastad yn dweud os oes ‘na drychineb, os ti’n cael amser caled yn dy fywyd, os ti’n gallu mynd trwy hwnna a dysgu rhywbeth, o leia’ ma’ rhywbeth da wedi dod allan o’r drwg.”
Bydd rhaglen Dŵr Du: Trychineb y Sea Empress yn cael ei darlledu ar 3 Chwefror am 21.00 ar S4C ac ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.