Merched y Môr yn gorffen ras rwyfo fwyaf heriol y byd ar draws Cefnfor yr Iwerydd
Mae tîm rhwyfo Merched y Môr wedi gorffen ras rwyfo fwyaf heriol y byd ar draws Cefnfor yr Iwerydd.
Fe ddechreuodd y tîm o bedair o Sir Benfro, sef Denise Leonard, Helen Heaton, Heledd Williams a Liz Collyer, y daith o Tenerife ym mis Rhagfyr.
Daeth cadarnhad dros nos fod y tîm wedi cwblhau'r ras, a hynny mewn amser o 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud.
Mae'r tîm wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer elusennau Sea Trust, y Bad Achub, Gweithredu dros Blant a Popham Kidney Support.
Mae'r pedair wedi bod yn rhwyfo mewn shifftiau bob awr o bob dydd, ac maen nhw bellach wedi codi dros £16,000 ar gyfer yr elusennau.
Roedd 43 tîm yn cystadlu yn y ras, gan gynnwys 114 o rwyfwyr o 20 cenedl wahanol.