Cynnig i gyflwyno rheoleiddiwr newydd dros ddŵr yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnig i gyflwyno rheoleiddiwr economaidd newydd fel rhan o gynllun “unwaith mewn cenhedlaeth” i ddiwygio’r system ddŵr yng Nghymru.
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi papur gwyrdd er mwyn sicrhau “afonydd glanach, rheoleiddio cryfach a gwell atebolrwydd” o fewn y diwydiant.
Mae’r papur, Llunio Dyfodol Llywodraethu Dŵr yng Nghymru, yn ymateb i ganfyddiadau'r Comisiwn Dŵr Annibynnol, a sefydlwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025.
Roedd yr adroddiad hwnnw yn awgrymu diddymu'r corff archwilio Ofwat, sydd yn goruchwylio'r diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr.
Byddai'r cyfrifoldeb dros reioleiddio yn cael ei roi yn nwylo Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fe fyddai’r newidiadau yn “annog buddsoddiad, diogelu'r amgylchedd a darparu system ddŵr sy'n gweithio i Gymru,” yn ôl y Dirprwy Prif Weinidog, Huw Irranca-Davies.
“Mae ein huchelgais yn glir a chadarn: afonydd glân ac iach, dŵr yfed diogel o ansawdd da, gwasanaethau teg a fforddiadwy a seilwaith modern sy'n barod ar gyfer y dyfodol,” meddai.
"Mae Cymru bellach yn wynebu argyfwng gwirioneddol. Mae argyfyngau hinsawdd a natur, seilwaith sy'n heneiddio a phryderon y cyhoedd am ansawdd dŵr yn gofyn am weithredu penderfynol.
“Mae'r system sydd gennym heddiw wedi'i chynllunio ar gyfer cyfnod gwahanol. Mae'n bryd ailosod pethau yn sylfaenol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol a chyflwyno Bil Dŵr newydd.
Ychwanegodd Mr Irranca-Davies: "Mae'r ymgynghoriad bellach ar agor ac rydym yn croesawu barn, tystiolaeth a gwybodaeth gan unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru. Rwy'n croesawu eich cyfraniad i'r sgwrs genedlaethol hon.”