Agor ymchwiliad cynllunio i ran o gynllun amddiffyn arfordir Aberaeron
Mae adran Gorfodaeth Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi cychwyn ymchwiliad cydymffurfiaeth i gais cynllunio Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron.
Daw hyn ar ôl i domen o dywod ymddangos ger ochr ddeheuol harbwr y dref yn dilyn y gwaith adeiladu.
Mae’r cynllun gwerth £36m wedi dod â newid sylweddol i’r arfordir yn lleol.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, mae tomen o gerrig a thywod wedi casglu ger mynedfa’r harbwr sydd yn atal mynediad iddo.
Clwb lleol yn cwyno
Ar ôl i bryderon am hyn gael eu codi gan hwylwyr a phobl leol, mae Clwb Pysgota Aberaeron wedi cwyno am y datblygiad i adran gynllunio Cyngor Sir Ceredigion - gydag adran Gorfodaeth Cynllunio (Planning Enforcement) y cyngor bellach yn ymchwilio i'w cwyn.
Mae'r clwb pysgota yn honni fod y cynlluniau yn “groes i'r hyn a gymeradwywyd wrth gynllunio.”
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Mae’n ymddangos fod y grwyn ger Pier y De wedi ei waredu yn ystod y gwaith adeiladu ac wedi ei newid i domen o greigiau.
“Mae hyn yn ymddangos i fod yn groes i'r hyn a gymeradwywyd wrth gynllunio, lle roedd y cynlluniau yn dangos fod y grwyn deheuol yn aros yn yr un lle a’i warchod gan greigiau.
“Ers i’r gwaith gael ei gwblhau, mae tomen o waddodion, a oedd yn cael ei ddal nôl gan y grwyn, yn symud yn rhydd yng ngheg yr afon sydd yn cyfrannu at y tywod a cherrig sydd yn cronni.
“Mae colli’r strwythur hwn [y grwyn] yn debygol o fod yn ffactor sylweddol i esbonio pam fod deunyddiau wedi eu cronni wrth fynedfa’r harbwr.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran y clwb fod hyn “wedi cael effaith ar ddiogelwch yr harbwr ac amgylchedd yr afon.”
“Mae’r clwb wedi gofyn i Dîm Cydymffurfiaeth Cynllunio’r Cyngor i egluro os yw’r gwaith yn unol â’r caniatâd cynllunio.”
'Asesu'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion mewn ymateb: “Derbyniwyd llythyr yn codi ymholiad ynghylch a oes mater cydymffurfio yn ymwneud â rhan o’r gwaith amddiffyn arfordirol.
“Mae'n gam arferol a chymesur y mae'r Cyngor yn ei gymryd pryd bynnag y byddwn yn derbyn cwyn fewnol neu allanol sy'n honni toriad posibl o ran rheolaeth gynllunio.”
Ychwanegodd mai “diben yr ymchwiliad yw casglu gwybodaeth, deall yr amgylchiadau ac asesu a oes unrhyw doriad wedi digwydd.”
“Mae swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried y materion a godwyd i benderfynu a oes yna fater cydymffurfio â chynllunio ai peidio.”
Cafodd y dyluniad ei greu gan gwmni Atkins ac fe gafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau gan gwmni BAM.
Cyfeiriodd cwmni dylunio Atkins Newyddion S4C at Gyngor Sir Ceredigion am ymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni BAM: "Mae BAM wedi cwblhau'r prosiect a'i drosglwyddo nôl yn ffurfiol yn unol â'r dyluniad a gymeradwywyd.
"Er mwyn osgoi peryglu yr ymchwiliad cyfredol, rydym yn holi i unrhyw gwestiynau eraill i gael eu hanfon at y Cyngor."