Tafarndai a bwytai Cymru i dderbyn gostyngiad mewn biliau treth busnes
Mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn Llywodraeth San Steffan gan gyhoeddi gostyngiad ar drethi busnes ar dafarndai, bwytai, bariau a lleoliadau cerddoriaeth.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth y byddai 4,400 o fusnesau lletygarwch yn gymwys i gael rhyddhad o 15% ar eu biliau ardrethi yn 2026-27, er mwyn “eu helpu trwy gyfnod o gostau cynyddol pan fo arferion defnyddwyr yn newid”.
Roedd Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi gostyngiad tebyg i fusnesau yn Lloegr ar ddiwedd mis Ionawr - mewn ymateb i feirniadaeth chwyrn am gynlluniau yn y Gyllideb ym mis Tachwedd fyddai wedi cynyddu biliau trethi busnesau.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn darparu hyd at £8 miliwn ar gyfer y pecyn, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU, ond hefyd gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru i ehangu ystod y busnesau a gaiff eu cynorthwyo yng Nghymru.
Daw'r datblygiad yn dilyn galwadau o fewn y diwydiant am doriad yn nhrethi busnesau lletygarwch yng Nghymru, wedi cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf y byddai busnesau yn Lloegr yn cael gostyngiad o 15% ar eu biliau.
'Pwysau'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw yn wynebu “pwysau gwirioneddol”.
“Bydd y gefnogaeth ychwanegol hon yn helpu tua 4,400 o fusnesau wrth iddynt addasu i'r heriau hyn,” meddai.
“Rydym wedi ymestyn y rhyddhad hwn i fwytai a chaffis, yn ogystal â thafarndai a lleoliadau cerddoriaeth fyw, oherwydd mewn trefi ac ar strydoedd mawr ledled Cymru mae'r busnesau hyn yn gweithredu ochr yn ochr, ac yn aml mewn cystadleuaeth uniongyrchol â'i gilydd. Mae'n gwneud synnwyr i roi cefnogaeth gyfartal iddynt.
“Mae hyn yn adeiladu ar fwy na £1 biliwn mewn rhyddhad ardrethi dros dro yr ydym wedi'i ddarparu ers 2020, ochr yn ochr â'n rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn bob blwyddyn. Byddwn yn parhau i gefnogi'r busnesau lletygarwch sy'n gwasanaethu ein cymunedau.”
Gall busnesau cymwys wneud cais am y rhyddhad trwy eu hawdurdod lleol o fis Ebrill 2026.