
Y Cymry sy’n rhan o’r gyfres Bad Education
Y Cymry sy’n rhan o’r gyfres Bad Education
Mae cymuned cwiar Cymru yn “infiltratio” cyfres newydd Bad Education, yn ôl dau o awduron y gyfres.
Mae Priya Hall a Leila Navabi wedi eu cyhoeddi fel dwy fydd yn cyfrannu at sgriptiau’r gyfres newydd fydd yn ddilyniant o’r gyfres wreiddiol.
“Nid jyst ni sy’n Gymraeg a sgwennu arno fe, mae Rhys Taylor hefyd yn sgwennu arno fe a mae’n dod o Pen-y-bont,” meddai Priya.
“Mae’n dod o Ben-y-bont a maen nhw’n non-binary felly cymuned cwiar o Gymru yn infiltratio Bad Education,” ychwanegodd Leila.
Fe gyhoeddodd y BBC ym mis Mai y byddai pennod arbennig yn aduno'r cast gwreiddiol yn cael ei darlledu eleni i ddathlu 10 mlynedd o'r gyfres.
Bydd cyfres chwe phennod yn dilyn, wedi ei hysgrifennu gan dîm o awduron sydd wedi "torri trwyddo" fel rhan o ymdrech ehangach gan y gorfforaeth i fuddsoddi mewn comedi "trawiadol".

Llun: BBC
Jack Whitehall
Galwad Zoom gyda Jack Whitehall oedd dechrau’r siwrnai i Priya.
“O’n i ‘di cael Zoom efo y cwmni sy’n creu Bad Education a Jack Whitehall. O’n i fel ‘Tybed beth mae hyn amdan? Pam mae Jack Whitehall ar y galwad ‘ma?’”, meddai.
“O’dd y galwad ar ffôn rili fach. O’n i heb sylweddoli o’dd e’n Jack Whitehall tan o’dd e’n dechrau siarad.
“Ar ôl y Zoom call hynny, o’n i wedi cael fy ngofyn i sgwennu arno fe so o’n i’n rili mwynhau ‘neud hynny, edrych ymlaen iddo fe ddod mas.”
Fe fydd y rhan fwyaf o’r cast yn newydd i’r gyfres pan fydd hi’n dychwelyd.
“Dwi’n excited pan mae pawb yn cwrdd y cast ar y teledu,” meddai Leila.
“Ar ôl gwylio tapes castio roeddwn i’n like ‘Oh my God mae’n perfect’”.

‘Cyfarwydd ond gwahanol’
Yn ôl Priya, fe fydd rhywbeth at ddilynwyr hen a newydd o’r gyfres.
“Oedd pawb yn caru’r cyfres pan oedd e wedi dod mas ond dwi’n meddwl bod y cast newydd o plant rili mynd i apelio at pobol newydd ond ma’ ‘na cast diweddar mewn ‘na,” meddai.
“Fel mae Layton Williams a Charlie Wernham yn dod ‘nôl. So fydd e’n cyfarwydd ond gwahanol. Digon gwahanol fod pobl yn mwynhau e nawr.”
Roedd Priya a Leila yn perfformio mewn gig stand-yp yng Nghaffi Maes B ar brynhawn Sadwrn cyntaf y ‘Steddfod.
Yn ôl Priya, mae’n bwysig bod gan y gymuned LHDT+ lais ar faes yr Eisteddfod.
“Mae’n bwysig bod llais ‘da nhw [y gymuned LHDT+] yn yr Eisteddfod. Mae’r Eisteddfod yn rhan shwt gyment o hunaniaeth Cymraeg,” meddai.
Mae Bad Education Cyfres 4 yn ffilmio ar hyn o bryd ac mae disgwyl mwy o fanylion am ddyddiad darlledu yn ddiweddarach.