Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio merch 9 oed

The Guardian 30/07/2022
Lillia.png

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio merch 9 oed.

Bu farw Lillia Valutyte ar ôl cael ei thrywanu yn Boston yn Sir Lincoln ddydd Iau.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn 22 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae bellach yn y ddalfa. 

Yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd y llu wedi rhannu lluniau o ddyn yr oeddent yn awyddus i holi mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth.

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio pobl i beidio â mynd ato a ffonio 999 ar unwaith pe baent yn ei weld.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.