Dros yr Aber yn ennill cystadleuaeth Y Talwrn yn y Brifwyl
Dros yr Aber ydy enillwyr cystadleuaeth Y Talwrn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mewn cystadleuaeth agos yn erbyn tîm Crannog, daeth Rhys Iorwerth, Carwyn Eckley, Iwan Rhys a Marged Tudur yn fuddugol.
Doedd Marged ddim yn bresennol yn y Babell Lên ddydd Sadwrn oherwydd salwch.
Mae enillwyr eleni yn hen gyfarwydd gyda'r gystadleuaeth, gan mai dyma'r trydydd tro iddyn nhw ennill yr ornest o fewn pum mlynedd.
Roedd yna dlysau yn cael eu cyflwyno brynhawn Sadwrn hefyd, gyda Carwyn Eckley yn ennill Tlws Coffa Dic Jones am y cywydd gorau, Gruffudd Owen yn ennill Tlws Coffa Emyr Oernant, a Mari George yn ennill Tlws Coffa Cledwyn Roberts.
Fe gafodd gwobrau'r Talwrn eu creu gan Heledd Owen eleni.
Bydd y talwrn i'w glywed ar BBC Radio Cymru nos Sul am 19:00.
Llun: BBC Radio Cymru